Polisi Preifatrwydd Gwefan
Mae Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion (“ni”, “ein”, neu “ni”) yn ymrwymedig i warchod eich preifatrwydd a sicrhau bod eich data personol yn cael ei drin mewn modd diogel a thryloyw. Mae’r Polisi Preifatrwydd hwn yn esbonio sut rydyn ni’n casglu, defnyddio, a diogelu eich gwybodaeth pan fyddwch yn defnyddio ein gwefannau.
Rydyn ni’n cydymffurfio â Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (UK GDPR), Deddf Diogelu Data 2018, a deddfau perthnasol eraill.
Diweddarwyd ddiwethaf: 20/08/25
-
Colegau addysg bellach wedi’u lleoli yng Nghymru, y DU yw Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion. At ddibenion diogelu data, ni yw’r rheolyddion data ar gyfer eich data personol.
Manylion cyswllt:
Swyddog Diogelu Data
E-bost dataprotectionofficer@colegsirgar.ac.uk
Cyfeiriad: Campws y Graig, Heol Sandy, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN -
Mae’n bosibl y byddwn ni’n casglu a phrosesu’r mathau canlynol o ddata personol pan fyddwch yn defnyddio ein gwefannau:
- Enw a manylion cyswllt (e.e. e-bost, ffôn, cyfeiriad)
- Gwybodaeth rydych chi’n ei darparu drwy ffurflenni (e.e. ymholiadau cwrs, ceisiadau)
- cyfeiriad IP a gwybodaeth am ddyfais
- Dewisiadau o ran iaith
- Gweithgarwch pori gwefannau drwy cwcis a dadansoddeg
- Unrhyw wybodaeth arall rydych chi’n dewis cyflwyno
-
Rydyn ni’n casglu eich data personol drwy:
- Ffurflenni rydych chi’n cwblhau ar ein gwefannau
- Cwcis a thechnolegau olrhain sy’n cofnodi eich ymddygiad pori
- Integreiddiadau trydydd parti meis dadansoddeg ac offer marchnata
I gael mwy o fanylion, gweler ein Polisi Cwcis.
-
Rydyn ni’n prosesu eich data personol er mwyn:
- Darparu gwasanaethau neu wybodaeth rydych chi’n gofyn amdanynt
- Ymateb i‘ch ymholiadau a chyfathrebu â chi
- Gwella ymarferoldeb, diogelwch, a phrofiad defnyddwyr ein gwefannau
- Anfon cyfathrebiadau marchnata lle rydych wedi optio i mewn
- Dadansoddi traffig gwefan a phatrymau defnydd
- Cydymffurfio â rhwymedigaethau cyfreithiol a rheoleiddiol
-
Rydyn ni’n prosesu data personol dan y seiliau cyfreithiol canlynol:
- Caniatâd– lle rydych chi wedi rhoi caniatâd i ni (e.e. ar gyfer marchnata neu gwcis opsiynol)
- Buddion cyfreithlon – i wella ein gwasanaethau a deall am ddefnydd gwefannau
- Rheidrwydd contractiol – wrth ddarparu gwasanaeth rydych chi wedi gofyn amdano
- Rhwymedigaeth gyfreithiol – pan ei bod yn ofynnol i gydymffurfio â’r gyfraith
-
Nid ydym yn gwerthu eich data personol. Fodd bynnag, efallai y byddwn yn ei rannu â thrydydd partïon y gellir ymddiried ynddynt sy’n ein helpu i weithredu ein gwefannau a darparu gwasanaethau. Gall y rhain gynnwys:
- HubSpot – ar gyfer ffurflen gyswllt a rheoli cyfathrebiadau
- Google Analytics – i ddadansoddi traffig gwefan
- reCAPTCHA – i ddiogelu ffurflenni rhag sbam
- Cyfryngau wedi’u gwreiddio neu broseswyr cymeradwy eraill lle bo gofyn
Mae’r holl drydydd partïon yn rhwymedig yn gontractiol i gadw eich data yn ddiogel a chydymffurfio â chyfreithiau diogelu data.
-
Efallai y bydd rhai o’n darparwyr gwasanaeth (e.e. HubSpot, Google) yn prosesu eich data y tu allan i’r DU neu’r UE. Lle mae hyn yn digwydd, rydyn ni’n sicrhau bod mesurau diogelwch priodol, megis Cymalau Contractiol Safonol (SCCs), yn eu lle.
-
Rydyn ni’n cadw data personol yn unig cyhyd â bod angen i fodloni’r pwrpasau y cafodd ei gasglu ar eu cyfer, gan gynnwys gofynion cyfreithiol, cyfrifyddu neu adrodd. Mae cyfnodau cadw yn amrywio yn dibynnu ar y math o ddata a phwrpas ei gasglu.
-
Nid yw ein gwefan wedi’i fwriadu ar gyfer plant dan 13 oed, ac nid ydym yn casglu eu data personol yn fwriadol. Os ydych chi’n credu eich bod wedi casglu data o blentyn dan 13 oed heb ganiatâd priodol, cysylltwch â ni ac fe wnawn ni ei ddileu.
Ar gyfer ymgeiswyr dan 18 oed sy’n cyflwyno ffurflenni, efallai y bydd caniatâd ychwanegol oddi wrth rieni neu warcheidwad yn ofynnol. -
Rydyn ni’n defnyddio mesurau technegol a sefydliadol priodol i ddiogelu eich data personol rhag ei golli, ei gamddefnyddio, ei gyrchu heb awdurdod, ei ddatgelu, neu ei newid.
-
Nid ydym yn defnyddio data personol a gasglwyd drwy ein gwefannau ar gyfer gwneud penderfyniadau awtomataidd neu broffilio.
-
Dan GDPR y DU, mae gennych yr hawliau canlynol:
- Mynediad – gofyn am gopi o’r data personol rydyn ni’n dal amdanoch
- Cywiro – cywiro data sy’n anghywir neu’n anghyflawn
- Dileu – gofyn i ddileu eich data (“hawl i gael eich anghofio.”)
- Cyfyngu – cyfyngu sut rydyn ni’n prosesu eich data
- Gwrthwynebu – gwrthwynebu prosesu ar sail buddion cyfreithlon neu farchnata uniongyrchol
- Cludadwyedd data – gofyn i’ch data fod mewn fformat trosglwyddadwy
- Tynnu caniatâd yn ôl – lle mae prosesu’n seiliedig ar ganiatâd
- Cwyno i’r ICO – https://ico.org.uk/make-a-complaint/
I arfer unrhyw un o’r hawliau hyn, cysylltwch â’n Swyddog Diogelu Data gan ddefnyddio’r manylion uchod.
-
Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis i wella eich profiad pori a dadansoddi traffig. Pan fyddwch yn ymweld am y tro cyntaf, fe welwch chi faner caniatáu cwcis fydd yn rhoi’r opsiwn i chi dderbyn, gwrthod neu bersonoli eich dewisiadau o ran cwcis.
I gael mwy o fanylion, gweler ein Polisi Cwcis. -
Mae’n bosibl y byddwn yn diweddaru’r polisi hwn o bryd i’w gilydd. Pan fyddwn, byddwn ni’n diweddaru’r dyddiad “Diweddarwyd Ddiwethaf” ar ben uchaf y dudalen hon. Rydyn ni’n eich annog i adolygu’r polisi hwn bob hyn a hyn.