Introduction
Diweddarwyd ddiwethaf: 20 Awst 2025
Mae’r Polisi Cwcis hwn yn esbonio sut mae Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion (“ni”, “ein”, neu “ninnau”) yn defnyddio cwcis a thechnolegau tebyg ar www.csgcc.ac.uk (“ein gwefan”). Mae’n disgrifio beth yw’r technolegau hyn, pam rydym yn eu defnyddio, a sut allwch chi reoli’r defnydd ohonynt.
-
Ffeiliau testun bach yw cwcis sy’n cael eu gosod ar eich dyfais pan fyddwch chi’n ymweld â gwefan. Fe’u defnyddir yn aml er mwyn sicrhau bod gwefannau’n gweithio, gwella effeithlonrwydd, a darparu gwybodaeth i berchnogion gwefannau.
Gall cwcis fod yn:- Cwcis parti cyntaf – wedi’u gosod gennym ni
- Cwcis trydydd parti – wedi’u gosod gan ddarparwyr trydydd parti (e.e. dadansoddeg, hysbysebu)
- Cwcis sesiwn – yn cael eu dileu pan fyddwch chi’n cau eich porwr
- Cwcis parhaol – yn cael eu storio nes iddyn nhw ddod i ben neu nes i chi eu dileu
-
Rydym yn defnyddio’r mathau canlynol o gwcis:
- Cwcis Angenrheidiol – Yn hanfodol ar gyfer swyddogaethau’r wefan ac ni ellir eu hanalluogi.
- Cwcis Perfformiad/Dadansoddol – Yn casglu data dienw ynglŷn â sut mae’r wefan yn cael ei defnyddio er mwyn gwella perfformiad.
- Cwcis Swyddogaethol – Yn cofio eich dewisiadau ac yn darparu nodweddion gwell.
- Cwcis Marchnata/Hysbysebu – Yn ein helpu i gyflwyno cynnwys perthnasol a mesur ymgysylltiad.
-
Mae rhestr lawn o’r cwcis sy’n cael eu defnyddio ar www.csgcc.ac.uk, eu dibenion, eu cyfnodau dod i ben, a’u categorïau yn cael ei chadw a’i diweddaru’n rheolaidd yn y polisi hwn. Ewch i’n gwefan i weld y rhestr ddiweddaraf.
-
Pan fyddwch chi’n ymweld â’n gwefan am y tro cyntaf, fe welwch chi faner cwcis sy’n caniatáu i chi:
- Dderbyn pob cwci
- Gwrthod cwcis diangenrhaid
- Rheoli dewisiadau
Gallwch newid eich dewisiadau unrhyw bryd drwy glicio ar y ddolen “Gosodiadau Cwcis” yn ein troedyn. Ni ellir analluogi cwcis hanfodol gan eu bod yn angenrheidiol er mwyn i’r wefan weithredu’n iawn.
-
Mae rhai cwcis yn cael eu rheoli gan drydydd partïon, fel Google, HubSpot, YouTube, a Facebook. Gall y darparwyr hyn gasglu a phrosesu data at eu dibenion eu hunain a gallant drosglwyddo data y tu allan i’r DU/Ardal Economaidd Ewropeaidd.
Edrychwch ar eu polisïau preifatrwydd unigol:- Google: https://policies.google.com/privacy
- HubSpot: https://legal.hubspot.com/privacy-policy
- Cwcis YouTube/Google: https://policies.google.com/technologies/cookies
- Facebook: https://www.facebook.com/privacy/policy
-
Rydym yn adolygu ac yn diweddaru ein defnydd o gwcis yn rheolaidd i sicrhau cywirdeb a chydymffurfiaeth â GDPR a Rheoliadau Diogelu Data, Preifatrwydd a Chyfathrebiadau Electronig y DU. Dewch yn ôl i’r dudalen hon o bryd i’w gilydd i gael gwybod am unrhyw newidiadau.
-
Os oes gennych gwestiynau neu sylwadau ynghylch y Polisi Cwcis hwn neu ein defnydd o gwcis, cysylltwch â’r canlynol:
Swyddog Diogelu Data
E-bost: dataprotectionofficer@colegsirgar.ac.uk
Am ragor o fanylion ynghylch sut rydym yn trin data personol, cyfeiriwch at ein Polisi Preifatrwydd: https://www.csgcc.ac.uk/privacy-policy