Archwiliwch Eich Dyfodol mewn Gofal Iechyd gyda Rhaglen Maes Meddygol Coleg Sir Gâr
Mae Eich Taith i Fyd Meddygaeth yn Dechrau Yma!
Ydych chi'n fyfyriwr 16-18 oed yn y DU sy’n frwd dros wyddoniaeth a gofal iechyd?
Rhaglen Maes Meddygol Coleg Sir Gâr yw eich porth i ystod gyffrous o yrfaoedd yn y sectorau meddygol a gofal iechyd. Mae’r rhaglen arloesol hon, a gyflwynir mewn partneriaeth â Phrifysgol Abertawe, yn cynnig profiadau ymarferol, ymweliadau ysbrydoledig â phrifysgolion, a chymorth wedi’i deilwra i’ch helpu i ddatgloi eich potensial.
- Mynediad Unigryw i’r Brifysgol: Cewch fewnwelediad gan weithwyr proffesiynol a chyn-fyfyrwyr sydd bellach yn ffynnu mewn gyrfaoedd gofal iechyd.
- Ysbrydoliaeth a Chefnogaeth: O ddysgu trochol i ganllawiau ymgeisio, mae gennym bopeth ar eich cyfer.
- Ffocws Safon Uwch Gwyddoniaeth: Cemeg a phynciau Safon Uwch gwyddoniaeth eraill yw eich cam cyntaf i ddyfodol disglair mewn meddygaeth
Beth sydd ynddo i chi?
1. Archwilio Gyrfaoedd Amrywiol mewn Gofal Iechyd
Camwch y tu hwnt i rôl draddodiadol meddyg a darganfyddwch gyfleoedd cyffrous mewn:
- Biocemeg
- Awdioleg
- Geneteg
- Radiograffeg
- Ymarfer Adran Lawfeddygol (ODP)
- Peirianneg Adsefydlu
2. Profiadau Ymarferol
Cewch ymweld ag Athrofa Gwyddor Bywyd Ysgol Feddygol o safon fyd-eang Prifysgol Abertawe a:
- Rhyngweithio â gweithwyr proffesiynol y GIG a myfyrwyr gradd.
- Profi hyfforddiant o’r radd flaenaf yn Swît Efelychu Prifysgol Abertawe (SUSIM) gyda senarios trochol yn y byd go iawn.
- Cymryd rhan mewn gweithdai a sesiynau ymarferol mewn sgiliau clinigol, anatomeg, a gwyddoniaeth fiofeddygol.
3. Cefnogaeth Wedi’i Theilwra ar gyfer Eich Dyfodol
Dysgwch sut i wneud cais llwyddiannus am raddau gofal iechyd a gwyddor bywyd gydag arweiniad arbenigol ar:
- Ysgrifennu datganiadau personol o ansawdd uchel.
- Llywio’r broses ymgeisio i’r brifysgol.
- Archwilio ysgoloriaethau a chymorth ariannol.
Cychwynnwch Arni Heddiw!
Cymerwch y cam cyntaf tuag at yrfa gyffrous mewn gofal iechyd. Gwnewch gais am Gemeg a phynciau Safon Uwch gwyddoniaeth eraill yng Ngholeg Sir Gâr a sicrhewch eich lle yn y Rhaglen Maes Meddygol.
Ydych chi am wybod mwy?
Cysylltwch â Dr Susan Ford i gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen gan gynnwys ymweliadau a gweithdai sydd ar ddod.
Related news
Coleg Sir Gâr A-level science students worked with medical and dental professionals from the NHS in workshops organised by the college’s Medical Field Programme.
A-Level students with an interest in the healthcare sector, got an insight into studying psychology with a visit to Swansea University, as part of the college’s Medical Field Programme partnership.
As part of Coleg Sir Gâr’s Medical Field Programme, students recently visited Swansea University to take part in a biomedical science session.