
Lefel 2 mewn Therapi Harddwch
- Campws Aberteifi
Mae therapi harddwch yn yrfa sy’n amrywiol iawn gan y gall arwain at rolau mewn salonau, sbas, llongau gwyliau a gwestai.
Os ydych yn awyddus i ddechrau gyrfa yn y diwydiant harddwch, mae hwn yn gwrs cyffrous, a fydd yn eich galluogi i weithio gyda’r cyhoedd yn ein cyfleuster salon o’r radd flaenaf, Academi Steil, sy’n salon masnachol cwbl weithredol. Byddwch yn dysgu ac yn datblygu sgiliau ymarferol o ran rhoi triniaethau dwylo, triniaethau traed, triniaethau i’r wyneb, cwyro, iechyd a diogelwch, triniaethau llygad (tintio a siapio), blew amrant unigol, colur a gwaith derbynfa.
Byddwch hefyd yn astudio anatomeg a ffisioleg i ennill gwybodaeth greiddiol am yr unedau uchod.
Manylion y cwrs
- Llawn amser
- Cymysg
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae ein salonau gwallt a harddwch yn eithriadol ac yn caniatáu i chi hyfforddi a gweithio mewn amgylchedd salon masnachol, gan weithio ar aelodau’r cyhoedd yn wythnosol. Byddwch hefyd yn cael y cyfle i fynychu: sioeau masnach, seminarau, gweithdai yn ogystal â theithiau a drefnir sy’n gysylltiedig â’r sector a chymryd rhan mewn cystadlaethau.
Unwaith y byddwch wedi cwblhau’r cwrs, gallwch symud ymlaen i harddwch lefel tri. Bydd y cwrs hwn hefyd yn eich paratoi ar gyfer diwydiant ac yn rhoi’r sgiliau sydd eu hangen arnoch i weithio mewn salonau, sbas, siopau adrannol, gwestai a llongau gwyliau. Mae llawer o fyfyrwyr o Goleg Ceredigion wedi mynd ymlaen i sefydlu eu busnesau eu hunain neu i weithio i sbas yn eu hardal leol ac ymhellach i ffwrdd. Mae hwn yn gwrs rhagorol sy’n darparu’r cyfle i chi hogi eich sgiliau gwasanaeth cwsmer, i weithio gyda’r cyhoedd ac i adeiladu enw da a chronfa gleientiaid.
Gall harddwr/harddwraig weithio mewn llawer o ddiwydiannau fel gwestai a sbas yn rhoi triniaethau amrywiol megis triniaethau i’r wyneb, triniaethau ewinedd a chynnig cyngor arbenigol mewn amgylchedd proffesiynol.
Cewch eich asesu’n ymarferol yn y salon a bydd angen i chi sefyll profion uned i arddangos eich gwybodaeth yn y pynciau uchod.
4 TGAU graddau D ac uwch (neu gyfwerth) i gynnwys Cymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg Iaith a Mathemateg/Rhifedd. Neu Ddiploma Lefel 1 mewn pwnc perthynol.
Hefyd ceir prawf sgiliau ymarferol.
Bydd angen i bob ymgeisydd fod ag agwedd gadarnhaol a bydd addasrwydd ar gyfer y cwrs yn cael ei asesu yn y cyfweliad a thrwy gydol y cyfnod cynefino.
Cewch wybodaeth am gostau eich cit a’ch gwisg wrth i chi gofrestru.
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25.00 cyn cofrestru.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun, a hefyd gallwch fynd i gostau os yw’r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.