
Trin Gwallt Lefel 1
- Campws Y Graig
Mae trin gwallt yn caniatáu i chi fynegi eich creadigrwydd trwy amrywiol dechnegau steilio gwallt, cyfuniadau lliw, a thriniaethau gwallt.
Mae’r cymhwyster lefel un hwn yn rhagflas cyffrous a fydd yn rhoi cipolwg i chi ar fyd y diwydiant gwallt.
Wrth ddysgu yn salon hyfforddi masnachol y coleg byddwch yn datblygu’r sgiliau sylfaenol hanfodol sydd eu hangen ar gyfer eich llwybr gyrfa fel trinydd gwallt.
Mae’r cwrs hwn yn rhoi’r cyfleoedd ymarferol i chi sy’n caniatáu i chi gwblhau eich aseiniadau a rhoi eich sgiliau ar waith mewn amgylchedd salon trin gwallt go iawn.
Drwy gydol y cwrs hwn, byddwch yn cael eich asesu trwy brofion sgiliau ymarferol a fydd yn rhedeg ochr yn ochr â’r modiwlau rydych yn eu hastudio.
Fel rhan o’r cwrs, mae’n ofynnol i chi ymgymryd â phrofiad gwaith a fydd yn caniatáu i chi ddefnyddio’r sgiliau trosglwyddadwy y byddwch yn eu dysgu yn y coleg.
Mae’r cwrs hwn yn ddelfrydol ar gyfer rhai sy’n gadael ysgol sydd â diddordeb mewn gyrfa fel trinydd gwallt ac mae’r cymhwyster yn rhoi mynediad cadarn i ddeall yr hyn sy’n gysylltiedig â’r sector gwallt.
Manylion y cwrs
- Llawn amser
- Cymysg
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae’r coleg yn rhedeg salon masnachol sydd ar agor i’r cyhoedd, gan ddarparu amgylchedd gwaith go iawn i chi, a’ch galluogi i gael ymdeimlad o sut y bydd yn teimlo i weithio yn y diwydiant.
Yn ogystal, yn ystod y flwyddyn byddwch yn cwblhau cymhwyster gwasanaeth cwsmer Cymraeg ychwanegol er mwyn rhoi’r sgiliau hanfodol i chi sydd eu hangen i weithio yn y diwydiant yng Nghymru.
Byddwn hefyd yn eich cefnogi i ddod yn ddysgwr annibynnol trwy gynllunio, gosod targedau a datblygiad unigol.
Trwy astudio’r cwrs hwn, cewch y cyfle i fod yn rhan o raglen ffyniannus o weithgareddau sy’n cynnwys ymweliadau a digwyddiadau sy’n cynnwys cymryd rhan mewn cystadlaethau cenedlaethol sydd â’r potensial i symud ymlaen i gystadlaethau rhyngwladol.
Mae’r cwrs achrededig hwn yn cynnwys chwe uned a astudir dros flwyddyn, sy’n cwmpasu pynciau fel:
- Paratoi ar gyfer gwasanaethau gwallt a chynnal ardaloedd gwaith
- Chwythsychu gwallt
- Siampŵo a chyflyru gwallt
- Cynorthwyo gyda gwasanaethau lliwio a goleuo gwallt
Ochr yn ochr â’ch cymhwyster trin gwallt, cewch gyfle i wella eich graddau naill ai drwy ailsefyll pynciau TGAU neu Sgiliau Hanfodol mewn llythrennedd a rhifedd, a fydd yn eich galluogi i symud ymlaen i gyrsiau pellach ac i ddatblygu eich hyder a’ch rhagolygon gyrfa.
Mae’r cwrs hwn yn canolbwyntio ar ddarparu’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnoch er mwyn symud ymlaen i gyrsiau lefel uwch, prentisiaethau a gwaith yn y pen draw.
Mae ymgymryd â’r hyfforddiant cywir ar gychwyn eich gyrfa yn fuddsoddiad hirdymor gwych o ran eich rhagolygon gyrfa.
Cefnogir dilyniant i gyrsiau lefel dau a lefel tri ynghyd â rhagolygon gyrfa sy’n cynnwys salonau masnachol, gwaith teledu, ffilm, theatr a’r cyfryngau, llongau gwyliau, a hunangyflogaeth yn ogystal â lleoliadau cartref neu symudol.
Fel rhan o’r rhaglen hon bydd y dulliau asesu canlynol yn cael eu defnyddio:
- Arholiad ymarferol
- Asesiadau parhaus
- Portffolio o dystiolaeth
- Asesiadau ysgrifenedig
3 TGAU graddau G ac uwch (neu gyfwerth) i gynnwys Cymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg Iaith neu Fathemateg/Rhifedd.
Bydd angen i bob ymgeisydd fod ag agwedd gadarnhaol a bydd addasrwydd ar gyfer y cwrs yn cael ei asesu yn y cyfweliad a thrwy gydol y cyfnod cynefino.
Fel rhan o’r cwrs, cewch fynediad i ystod o gyfarpar ac adnoddau ac ar ben hynny, bydd angen prynu cynhyrchion traul ac iwnifform. Eglurir y wybodaeth hon cyn eich dyddiad dechrau.
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a hefyd gallwch fynd i gostau os yw’r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.