Skip page header and navigation

Mynediad i Addysg Uwch – Cwnsela a Gofal Cymdeithasol

  • Campws Y Graig
1 Flwyddyn

Mae’r Diploma Mynediad i Gwnsela a Gofal Cymdeithasol yn llwybr ardderchog i yrfa mewn cwnsela, polisi cymdeithasol, seicoleg, gwaith cymdeithasol, gwaith ieuenctid neu  gyrsiau gradd eraill yn ymwneud â gofal cymdeithasol.

Mae’r cwrs hwn yn golygu tri diwrnod o ddarlithoedd yr wythnos. Yn ogystal â gwybodaeth bwnc, byddwch yn dysgu’r sgiliau ymchwil academaidd a chyflwyno bydd yn rhoi’r sylfaen cryf i chi sydd ei angen arnoch i symud ymlaen i astudio ar lefel gradd.

Mae cwrs Mynediad yn gofyn am ymrwymiad, y gallu i fodloni terfynau amser llym a phenderfyniad i gyflawni astudio annibynnol. Bydd angen i chi fod yn hyblyg gyda’ch gwaith a’ch ymrwymiadau teuluol ac yn y cyfweliad gofynnir i chi sut y byddwch yn ymdopi â hyn.  

I’r myfyrwyr hynny sydd ei angen, mae yna ymgynghorwyr a all helpu gyda cheisiadau am gymorth ariannol neu academaidd.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Llawn amser
Hyd y cwrs:
1 Flwyddyn

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Nid yw ennill y Diploma Mynediad yn seiliedig ar basio arholiad ond ar asesu parhaus, ac asesir y cwrs trwy amrywiaeth o aseiniadau.

Mae’r cwrs yn elwa ar ystod o feysydd testun diddorol a addysgir gan staff hynod gymwys, cefnogol a brwdfrydig. 

Yn ogystal â’r rhain, mae gwersi ar wahân wedi’u hamserlennu i adeiladu sgiliau cyfathrebu a rhifedd hyd at y safon ofynnol ar gyfer mynediad i brifysgol.

Darperir cefnogaeth, arweiniad ac adborth rheolaidd mewn tiwtorialau personol i annog ac ysgogi myfyrwyr a all fod â diffyg hyder yn yr ystafell ddosbarth i ddechrau.

Mae llwybrau dilyniant posibl yn cynnwys astudio pellach a gyrfaoedd mewn:

●    Cwnsela
●    Gwaith Cymdeithasol
●    Seicoleg
●    Cymdeithaseg
●    Polisi Cymdeithasol
●    Iechyd a Gofal Cymdeithasol
●    Iechyd a Gofal Cymdeithasol Plant a Phobl Ifanc

Byddwch yn astudio ystod o fodiwlau Lefel 3 gan gynnwys:

  • Gofal Iechyd
  • Cwnsela
  • Polisi Cymdeithasol
  • Seicoleg
  • Cymdeithaseg
  • Y Prosiect Ymchwiliol

Yn ogystal, byddwch yn astudio sgiliau craidd a fydd yn eich paratoi ar gyfer astudio yn y brifysgol:

  • Sgiliau academaidd
  • Rhifedd

Mae sesiynau tiwtorial yn cefnogi dysgwyr ac yn cynnig arweiniad gyda’r broses UCAS a sgiliau astudio.

Bydd pob modiwl yn cael ei asesu drwy amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys: 

  • Traethodau
  • Cyflwyniadau
  • Asesiadau â Chyfyngiad Amser
  • Llyfr agored
  • Posteri academaidd
  • Astudiaethau Achos
  • Ymarferion ymarferol
  • Adroddiadau

Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.

Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a hefyd gallwch fynd i gostau os yw’r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.

  • Rhaid i bob ymgeisydd fod yn 19 oed neu hŷn ar y diwrnod mae’r cwrs y  dechrau. 
  • TGAU Mathemateg a Saesneg Iaith ar radd C neu uwch.  
  • Caiff pob ymgeisydd gyfweliad ffurfiol a phrofion llythrennedd a rhifedd sylfaenol.     
  • Ymrwymiad i astudio’n llawn amser
  • Mae agwedd aeddfed, ymroddedig a gwydn yn hanfodol, a disgwylir presenoldeb sydd o leiaf 90% bob tymor gan bob myfyriwr.
  • Mae angen bod gan ymgeiswyr syniad clir o’r cwrs lefel gradd maen nhw am wneud cais ar ei gyfer yn y dyfodol.
  • Bydd ymgeiswyr heb y cymwysterau perthnasol, neu gymwysterau cyfwerth, yn cael eu cyfeirio at gwrs Lefel 2 priodol er mwyn cyflawni’r sgiliau gofynnol i’w galluogi i symud ymlaen i’r Diploma. Cewch arweiniad a chyngor yn y cyfweliad. 

Mwy o gyrsiau Iechyd, Gofal a Chynghori

Chwiliwch am gyrsiau