
Safon Uwch Cerddoriaeth
- Campws Y Graig
Mae cerddoriaeth yn bwnc aml-sgil sy’n datblygu disgyblaeth, dyfalbarhad, dibynadwyedd, hunanfeddiant a dewrder. Mae’n cyfuno’r rhesymegol a’r creadigol ac mae’n hwyl.
Mae cerddoriaeth yn hyfforddiant ardderchog ar gyfer amldasgio ynghyd â meddwl dadansoddol a chreadigol. Mae cyflogwyr yn chwilio am ymgeiswyr sydd wedi bod yn rhan o weithgareddau sy’n arddangos sgiliau dyfalbarhad, creadigrwydd, dadansoddi a datrys problemau, sgiliau sydd eu hangen wrth astudio cerddoriaeth.
Hyd yn oed os nad ydych eisiau astudio cerddoriaeth y tu hwnt i lefel UG a Safon Uwch, bydd y sgiliau a’r profiad a enillir yn eich cynorthwyo gyda hyder mewn cyfweliadau a byddwch yn ennill sgil gydol oes.
Manylion y cwrs
- Llawn amser
- Wyneb i Wyneb
Ffi Gweinyddu: £25.00
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Nod y cwrs hwn yw datblygu sgiliau a thechnegau cyfansoddi, perfformio ac arfarnu trwy astudio cerddoriaeth offerynnol o Draddodiad Clasurol y Gorllewin a chyfnod neu genre arall o gerddoriaeth. Drwy gydol y cwrs, bydd myfyrwyr yn dysgu sgiliau a thechnegau perfformio a chyfansoddi, gan arwain at gyfansoddi 2 ddarn a pherfformio 2 ddarn ar lefel UG, gyda’r opsiwn i arbenigo mewn un o’r agweddau hyn yn yr ail flwyddyn. Yn ogystal â hyn, mae’r cwrs hefyd yn cynnwys astudiaeth fanwl o symffoni ac astudiaethau cyffredinol o gerddoriaeth arall er mwyn gwella sgiliau arfarnu.
Mae’r dysgu’n digwydd drwy weithgareddau dosbarth, trafodaethau grŵp, rhyngweithio un-i-un gydag athrawon a chymheiriaid a defnyddio technoleg.
Uned 1 (UG) Uned 4 (Safon Uwch) – Perfformio:
Change to - Byddwch yn perfformio o leiaf dau ddarn i arholwr sy’n ymweld. Bydd y perfformiad yn 6-8 munud o hyd o safon Gradd 5 (UG) neu Radd 6 (Safon Uwch) ar unrhyw offeryn neu lais. Gallwch chi arbenigo mewn Perfformio ym Mlwyddyn 2 (perfformiad o 10-12 munud o safon Gradd 6).
Uned 2/Uned 5 – Cyfansoddi:
Add at the end of the paragraph – (3 darn: 1 briff gosod, 1 dewis rhydd ac 1 sy’n gysylltiedig â Maes Astudio).
Uned 3/Uned 6 – Arfarnu:
Change to - Arholiad ysgrifenedig (tua) 1 awr 30 munud (UG) 2 awr 15 munud (Safon Uwch) yn seiliedig ar y meysydd astudio canlynol: Traddodiad Cerddorfaol Clasurol y Gorllewin (Y Symffoni) ac 1 (UG) neu 2 (Safon Uwch) faes astudio arall e.e. Theatr Gerdd/Roc a Phop/Argraffiadaeth.
Gall cymwysterau cerddoriaeth arwain at yrfa yn y diwydiannau cerddoriaeth/ffilm/teledu/gemau, byd addysg, therapi cerddoriaeth, fel perfformiwr, cyfansoddwr neu arweinydd ond mae hefyd yn agor y drws i lawer o yrfaoedd eraill.
Lefel UG (blwyddyn un):
- Perfformio - perfformiad yn ystod mis Mawrth (allanol)
- Cyfansoddi - dau gyfansoddiad sy’n cynnwys sgôr, recordiad a darn ysgrifenedig ym mis Ebrill (allanol)
- Arfarnu - arholiad ysgrifenedig ym mis Mai (allanol).
Safon Uwch (blwyddyn dau):
- Perfformio - perfformiad yn ystod mis Mawrth
- Cyfansoddi - dau gyfansoddiad sy’n cynnwys sgôr, recordiad a darn ysgrifenedig ym mis Ebrill (allanol)
- Arfarnu - arholiad ysgrifenedig ym mis Mehefin.
Lleiafswm o chwe chymhwyster TGAU graddau A*-C. I gynnwys:
- TGAU Cerddoriaeth ar radd B neu uwch.
- TGAU Mathemateg a Saesneg Iaith ar radd C neu uwch.
- Mae theori Gradd 5 yn ddymunol, ond nid yw’n ofyniad ar gyfer mynediad.
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a hefyd gallwch fynd i gostau os yw’r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.
Mae’n cyfuno’r rhesymegol a’r creadigol ac mae’n hwyl! Mae’r Adran Gerdd yng Ngholeg Sir Gâr yn darparu ar gyfer unrhyw fath o gerddor, boed yn offerynnwr clasurol profiadol, yn ganwr neu’n gerddor roc. Rydym yn diwallu anghenion ein holl gerddorion drwy roi cymorth unigol i gyfansoddi, a thrwy feithrin eu diddordebau a’u chwaeth. Mae cerddoriaeth yn bwnc aml-sgil sy’n datblygu disgyblaeth, dyfalbarhad, dibynadwyedd, hunanfeddiant a dewrder. Mae cerddoriaeth yn hyfforddiant rhagorol ar gyfer gwneud mwy nag un peth ar y tro.
Mae cyflogwyr yn chwilio am ymgeiswyr sydd wedi bod yn rhan o weithgareddau sy’n dangos dyfalbarhad ac maent yn edrych yn benodol am bobl sydd wedi astudio Cerddoriaeth. Hyd yn oed os nad ydych eisiau astudio Cerddoriaeth y tu hwnt i lefel UG a Safon Uwch, bydd y sgiliau a’r profiad a enillir yn eich cynorthwyo gyda hyder mewn cyfweliadau a byddwch yn ennill sgil gydol oes.
I Dyfu: Mae cerddoriaeth yn caniatáu i chi dreulio amser yn perfformio neu wrando ar y gerddoriaeth y mae gennych ddiddordeb ynddi eisoes ac rydych yn frwd yn ei chylch. Yn ychwanegol, mae’n eich cyflwyno i ystod enfawr o theori a genres eraill na fyddwch wedi dod ar eu traws o’r blaen.
Gall cymwysterau cerddoriaeth arwain at yrfa yn y diwydiannau cerddoriaeth/ffilm/teledu/gemau, byd addysg, therapi cerddoriaeth, fel perfformiwr, cyfansoddwr neu arweinydd ond mae hefyd yn agor y drws i lawer o yrfaoedd eraill.
Cerdd, fel Perfformiwr, Cyfansoddwr neu Arweinydd ond mae hefyd yn agor drysau i yrfaoedd eraill megis Mathemateg, Meddygaeth, y Gyfraith neu Ddeintyddiaeth.
I Greu: Mae’r Diwydiant Cerddoriaeth a’r Diwydiannau Creadigol yn ddiwydiannau twf enfawr yng Nghymru a thu hwnt. Byddwch chi’n dysgu sut i gyfansoddi a threfnu cerddoriaeth trwy ddefnyddio offerynnau a thechnoleg cerddoriaeth hefyd.
I Adeiladu Eich Gyrfa: Waeth beth yr hoffech chi fynd ymlaen i’w wneud, mae Cerddoriaeth yn rhoi hyder i chi berfformio o flaen eraill (yn dda ar gyfer cyfweliadau) a gallwch ddangos brwdfrydedd am y maes cerddoriaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (hefyd yn dda ar gyfer cyfweliadau!).
Bydd dangos eich creadigrwydd wrth berfformio ar eich offeryn, cyfansoddi mewn genre rydych chi’n ei garu, a chynyddu eich gwybodaeth a’ch sgiliau dadansoddi y byddwch yn eu datblygu ar hyd y cwrs ond yn gwneud eich CV yn gryfach.