TAG Uwch Gyfrannol/Safon Uwch Cymdeithaseg
- Campws Y Graig
Astudiaeth o bobl, cymdeithas, a’r grymoedd sy’n siapio’r byd o’n cwmpas yw Cymdeithaseg. Mae Cymdeithaseg yn eich annog i ofyn cwestiynau pwysig. Pam mae pobl yn ymddwyn yn wahanol mewn grwpiau? Pam mae anghydraddoldeb yn bodoli? Sut mae cymdeithas yn newid dros amser?
Mae Cymdeithaseg ym mhob man. Mae popeth rydych ch’n astudio’n cysylltu’n uniongyrchol i’r byd o’ch cwmpas, gan wneud y pwnc hwn yn brofiad cyffrous a diddorol iawn. Bydd y cwrs hwn hefyd yn caniatáu i chi ddatblygu nifer fawr o sgiliau academaidd, yn cynnwys meddwl yn feirniadol, datrys problemau, dadlau ac ysgrifennu traethodau.
Mae cynnig dealltwriaeth o bobl a chymdeithas yn werthfawr ym mhob sector cyflogaeth. Os ydych chi’n chwilfrydig am y byd o’ch cwmpas, Cymdeithaseg yw’r pwnc i chi.
Manylion y cwrs
- Llawn amser
- Wyneb i Wyneb
- Saesneg
Ffi Gweinyddu: £25.00
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
-
Nodweddion y Rhaglen
-
Cynnwys y Rhaglen
-
Dilyniant a Chyflogaeth
-
Dull asesu
-
Gofynion Mynediad
-
Costau Ychwanegol
- Mae’n cysylltu ag ystod o bynciau Safon Uwch, e.e. Y Gyfraith, Llywodraeth a Gwleidyddiaeth, Seicoleg, Astudiaethau Cyfryngau a Hanes
- Trafodaethau a dadleuon ynghylch materion cyfoes
- Datblygu ystod o sgiliau
- Cynnwys cyfoes a chynnwys sy’n newid yn barhaus
Lefel UG
- Uned 1 (Caffael Diwylliant, Cymdeithaseg y teulu),
- Uned 2 (Dulliau ymchwil cymdeithasegol, Cymdeithaseg Addysg)
Safon Uwch
- Uned 3 (Cymdeithaseg Trosedd a Gwyredd),
- Uned 4 (Dulliau Ymchwil Cymhwysol, Anghydraddoldeb Cymdeithasol)
Mae Cymdeithaseg yn bwnc gwerthfawr iawn ar gyfer mynediad i addysg uwch, gyda llawer o brifysgolion yn cynnig graddau mewn amrywiaeth o gyrsiau gwyddorau cymdeithasol. Mae ystod eang o opsiynau gyrfaol yn cysylltu â Chymdeithaseg, gan gynnwys gwaith cymdeithasol, addysg, y System Cyfiawnder Troseddol, Busnes a marchnata, y cyfryngau a chyfathrebu, ymchwil, i enwi ond ychydig.
Mae’r cwrs hwn yn seiliedig ar arholiad.
Bydd arholiad allanol yn cael ei sefyll ar gyfer pob uned.
Mae arholiadau UG (Uned 1 ac Uned 2) yn cael eu sefyll ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf.
Mae arholiadau A2 (Uned 3 ac Uned 4) yn cael eu sefyll ar ddiwedd yr ail flwyddyn.
Lleiafswm o chwe chymhwyster TGAU graddau A*-C. I gynnwys:
- TGAU Saesneg Iaith ar radd B neu uwch.
- TGAU Mathemateg ar radd C neu uwch.
Asesir addasrwydd ar gyfer y cwrs yn ystod cyfweliad a thrwy gydol y cyfnod cynefino.
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a hefyd gallwch fynd i gostau os yw’r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.