Lefel 4 Sicrhau Ansawdd Mewnol Prosesau ac Arferion Asesu
- Campws Y Graig
Oes diddordeb gennych mewn asesu mewn ystafell ddosbarth neu mewn amgylchedd hyfforddi proffesiynol?
Mae’r Dyfarniad Lefel 4 mewn Sicrhau Ansawdd Mewnol Prosesau ac Arferion Asesu yn gymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol sydd wedi’i gynllunio ar gyfer ymarferwyr sy’n monitro, gwerthuso, a gwella ansawdd arferion asesu o fewn sefydliadau. Mae’n addas ar gyfer aseswyr profiadol sydd am gymryd rôl sicrhau ansawdd mewnol (IQA) neu ar gyfer y rheiny sydd eisoes yn cyflawni cyfrifoldebau sicrhau ansawdd ac sy’n ceisio cydnabyddiaeth ffurfiol o’u sgiliau.
Mae’r cymhwyster hwn yn rhoi’r wybodaeth a’r arbenigedd i ddysgwyr i sicrhau bod penderfyniadau asesu yn gyson, yn deg, yn ddilys, ac yn ddibynadwy, a bod prosesau asesu yn cydymffurfio â gofynion rheoliadol a sefydliadol.
Manylion y cwrs
- Rhan amser
- Saesneg
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
What you will learn
-
Nodweddion y Rhaglen
-
Cynnwys y Rhaglen
-
Dilyniant a Chyflogaeth
-
Dull asesu
-
Gofynion Mynediad
-
Costau Ychwanegol
Mae ein Rhaglen Lefel 4 yn cynnwys dwy uned orfodol fydd yn cwmpasu:
Uned 401 Deall Egwyddorion ac Arferion Sicrhau Ansawdd yr Asesu yn Fewnol
Uned 402 Sicrhau Ansawdd yr Asesu yn Fewnol
Caiff y cymhwyster ei gyflwyno gan ddefnyddio Google Meet, Google Classroom a MyDrive ynghyd â sesiynau cefnogi un i un.
Mae’r cymhwyster hwn yn ddelfrydol ar gyfer:
- Aseswyr profiadol sy’n symud ymlaen i rolau sicrhau ansawdd.
- Ymarferwyr sy’n gyfrifol am safoni arferion asesu ar draws timau.
- Staff â rôl yn rheoli asesu ansawdd o fewn darparwyr hyfforddiant, colegau AB, neu amgylcheddau dysgu mewn gweithleoedd.
- Y rheiny sy’n ceisio dilyniant gyrfaol i swyddi IQA arweiniol neu reolwr ansawdd.
Ar gwblhau’r rhaglen, bydd dysgwyr yn gallu:
- Deall egwyddorion ac arferion sicrhau ansawdd mewnol.
- Cynllunio, dyrannu a monitro gwaith yn eu maes cyfrifoldeb.
- Sicrhau ansawdd penderfyniadau a phrosesau asesu yn fewnol.
- Darparu adborth, cefnogaeth, ac arweiniad i aseswyr.
- Cadw cofnodion sy’n bodloni gofynion archwilio mewnol ac allanol.
Cyfrannu at welliant parhaus arferion asesu a sicrhau ansawdd
Gall dysgwyr llwyddiannus symud ymlaen i:
- Rolau IQA arweiniol o fewn sefydliadau.
- Tystysgrif Lefel 4 mewn Addysg a Hyfforddiant (CET) neu Ddiploma Lefel 5 mewn Addysg a Hyfforddiant (DET).
- Swyddi rheoli o fewn hyfforddi a sicrhau ansawdd.
Y dull asesu ar gyfer y cymhwyster yw drwy amrywiaeth o wahanol asesiadau gan gynnwys aseiniadau ysgrifenedig, arsylwi arfer asesu, trafodaethau proffesiynol ac adroddiadau adfyfyriol a phortffolio o dystiolaeth yn dangos cynhwysedd mewn rôl IQA.
Wedi cwblhau’r Cymhwyster Aseswr Lefel 3 yn flaenorol ac wedi bod yn y rôl am o leiaf 12 mis cyn ymgymryd â’r Cymhwyster IQA.
£352 (gall hyn newid)
Gall dysgwyr dalu yn Swyddfa’r Campws fodd bynnag ni chaniateir taliadau bob yn gam gan nad yw’r ffioedd yn fwy na £400.