Skip page header and navigation

Dyfarniad Lefel 3 mewn Asesu

  • Campws Y Graig
6 mis. Yn dechrau Hydref 2026

Oes diddordeb gennych mewn asesu mewn ystafell ddosbarth neu mewn amgylchedd hyfforddi proffesiynol?

Mae’r Dyfarniad Lefel 3 mewn Asesu Cymhwysedd yn yr Amgylchedd Gwaith  yn gymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol sydd wedi’i gynllunio ar gyfer unigolion sydd naill ai’n dechrau gweithio neu’n gweithio ar hyn o bryd fel aseswyr mewn lleoliadau addysg alwedigaethol, hyfforddiant neu weithleoedd.

Mae’r rhaglen hon yn darparu’r wybodaeth a’r sgiliau i ddysgwyr ar gyfer asesu’n effeithiol cymhwysedd galwedigaethol dysgwyr yn y gweithle a/neu gyflawniad cysylltiedig â galwedigaeth mewn amgylcheddau hyfforddi. Mae’n addas ar gyfer y rheiny sy’n asesu sgiliau ymarferol a gwybodaeth ddamcaniaethol hefyd.

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Rhan amser
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
6 mis. Yn dechrau Hydref 2026

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae ein Rhaglen Lefel 3 yn cynnwys dwy uned orfodol fydd yn cwmpasu:

  • Uned 301 Deall Egwyddorion ac Arferion Asesu
  • Uned 302 Asesu Cymhwysedd Galwedigaethol yn yr Amgylchedd Gwaith

neu

  • Uned 3: Asesu Sgiliau Galwedigaethol, Gwybodaeth a Dealltwriaeth

Caiff y cymhwyster ei gyflwyno gan ddefnyddio Google Meet, Google Classroom a MyDrive ynghyd â chymysgedd o gyflwyniadau grŵp ar-lein a  sesiynau cefnogi un i un.

Erbyn diwedd y rhaglen, bydd dysgwyr yn gallu:

  • Deall egwyddorion ac arferion asesu, cynllunio a pharatoi asesiadau o gymhwysedd galwedigaethol a/neu gyflawniadau galwedigaethol. 
  • Asesu perfformiad a gwybodaeth dysgwyr gan ddefnyddio ystod o ddulliau asesu a darparu adborth adeiladol a chefnogi dilyniant dysgwyr. 
  • Cadw cofnodion cywir yn unol â gofynion sefydliadol a’r corff dyfarnu a defnyddio egwyddorion sicrhau ansawdd i sicrhau cysondeb a dibynadwyedd penderfyniadau asesu.
  • Cyfrannu at welliant parhaus arferion asesu a sicrhau ansawdd

Bydd cwblhau’r cymhwyster hwn yn llwyddiannus yn gallu arwain at:

  • Gyflogaeth fel aseswr cymwysedig mewn lleoliad gweithle neu leoliad hyfforddi  .
  • Dilyniant i gymwysterau lefel-uwch megis y Dystysgrif Lefel 4 mewn Arwain Sicrhau Ansawdd Mewnol Prosesau ac Arferion Asesu (IQA)
  • Datblygiad gyrfaol dyrchafedig mewn rolau addysg, hyfforddi, ac asesu galwedigaethol.

Y dull asesu ar gyfer y cymhwyster yw drwy amrywiaeth o wahanol asesiadau gan gynnwys aseiniadau ysgrifenedig, arsylwi arfer asesu, trafodaethau proffesiynol ac adroddiadau adfyfyriol a phortffolio o dystiolaeth yn dangos cynhwysedd aseswr.

Does dim gofynion mynediad ffurfiol i ymgeiswyr sy’n ymgymryd â’r cymhwyster hwn, fodd bynnag bydd y ganolfan, yn dilyn cyfweliad yn asesu bod y sgiliau, potensial a’r cyfle ar gael i’r ymgeisydd. Bydd hyn yn cynnwys lleoliad ar gyfer asesiadau ymarferol i’w cymryd, a drefnir gan y dysgwr.

£352 (gall hyn newid)

Gall dysgwyr dalu yn Swyddfa’r Campws fodd bynnag ni chaniateir taliadau bob yn gam gan nad yw’r ffioedd yn fwy na £400.