
Newyddion Coleg Sir Gâr - Mis Medi 2025
Croeso i'n cylchlythyr diweddaraf
Cewch yr holl newyddion, digwyddiadau a chyfleoedd diweddaraf. O straeon llwyddiant ysbrydoledig i nosweithiau agored sydd ar ddod, mae digon i’w archwilio. Daliwch ati i ddarllen i ddal i fyny ar yr hyn sydd wedi bod yn digwydd!
Mae myfyrwyr coginio proffesiynol a lletygarwch yng Ngholeg Sir Gâr wedi dychwelyd o ogledd yr Eidal lle gwnaethon nhw dreulio pum diwrnod yn archwilio Ravenna.

Mae Coleg Sir Gâr yn falch iawn i ddathlu cyflawniadau neilltuol ein dysgwyr yn arholiadau Safon Uwch eleni, gan atgyfnerthu ein cenhadaeth i siapio bywydau, cryfhau cymunedau, a ffynnu gyda’n gilydd.

Hannah yn barod i gychwyn ar ei thaith ym Mhrifysgol Princeton

Mae Hannah yn mynd i America i archwilio diwylliant a chyfleoedd dysgu
Mae myfyrwraig Safon Uwch yng Ngholeg Sir Gâr yn paratoi i astudio yn Unol Daleithiau America ar ôl cael ei derbyn i astudio’r celfyddydau breiniol ym Mhrifysgol Princeton.
Mae Hannah Freckleton wedi manteisio’n llawn ar ei phrofiad coleg, gan lwyddo i ennill statws Llywydd Undeb y Myfyrwyr a chynrychioli’r coleg fel llysgennad.
Gwnaeth hi gais i Brifysgol Princeton i astudio’r celfyddydau breiniol ac mae diddordeb ganddi mewn arbenigo mewn seicoleg, polisi cyhoeddus neu gymdeithaseg. Fodd bynnag yr hyn mae hi’n ei werthfawrogi am y rhaglen yw’r ffaith nad oes rhaid iddi ddewis pwnc arbenigol tan ei hail flwyddyn, sy’n rhoi amser iddi archwilio.
Ymgeisiodd hi gyda chefnogaeth ei darlithwyr a thrwy Raglen Fullbright US Ymddiriedolaeth Sutton.
News items 2
Travel and tourism students at Coleg Sir Gâr have recently returned from what they are describing as a ‘lifechanging visit’ to Vietnam.
The Taith-funded eight-day trip, took eight students to Ho Chi Minh City and specifically linked them with Thu Duc College of Technology (TDC).
Mae myfyrwyr Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion wedi sicrhau eu lle mewn amrywiaeth o ddigwyddiadau sgiliau diwydiant yn rowndiau terfynol cenedlaethol cystadlaethau nodedig WorldSkills y DU.

Mae myfyrwyr Dechrau Newydd a Sylfaen yng Ngholeg Sir Gâr yn dathlu ennill eu gwobrau Dug Caeredin (DoE) ac am y tro cyntaf ers sawl blwyddyn, mae llawer ohonynt wedi dewis herio eu sgiliau ymhellach fyth ac wedi cwblhau’r wobr arian.
