Skip page header and navigation
Just hands in gloves working with a blue tray containing blood samples

Fel rhan o Raglen Maes Meddygol Coleg Sir Gâr, aeth myfyrwyr ar ymweliad i Brifysgol Abertawe yn ddiweddar i gymryd rhan mewn sesiwn wyddoniaeth fiofeddygol.

Roedd yr ymweliad yn cynnwys gwaith labordy ymarferol mewn microbioleg ac imiwnoleg, gan brofi samplau gwaed gan ddefnyddio meithriniad penodol a grëwyd gan y brifysgol. 

Rhoddwyd gwybodaeth i fyfyrwyr hefyd am gyfleoedd gyrfa a gwybodaeth am astudio cwrs gradd mewn gwyddoniaeth fiofeddygol. 

Mae’r Rhaglen Maes Meddygol, mewn partneriaeth â Phrifysgol Abertawe, wedi’i hanelu at fyfyrwyr sydd am archwilio tu hwnt i rôl draddodiadol meddyg ac edrych ar yrfaoedd yn cynnwys biocemeg, seicoleg, awdioleg, geneteg, radiograffeg a theatr.  

Three students conducting an experiment wearing PPE and lab coats
A screen with descriptions of blood types

Meddai Bethan Craig, myfyrwraig Safon Uwch yng Ngholeg Sir Gâr: “Roedd y daith yn agoriad llygad wrth i mi ddysgu pethau newydd a dysgu am bwnc hollol newydd yn y diwydiant iechyd nad oeddwn i’n gwybod ei fod yn bodoli hyd yn oed. 

“Yn ystod y daith, cawsom gipolwg ar gynnwys y cwrs a sut mae’n cael ei redeg, yn ogystal â chwblhau sesiwn ymarfer gan ddefnyddio ein gwybodaeth o’r cyflwyniad i ddod o hyd i’r atebion. 

“Fe wnes i fwynhau dysgu pethau newydd am y pwnc, yn ogystal ag archwilio pwnc sy’n newydd i mi. 

“Rwy’n teimlo bod y daith wedi bod yn fuddiol iawn gan fy mod wedi gallu darganfod llwybr gyrfa hollol newydd nad oeddwn i’n gwybod ei fod yn bodoli o’r blaen, sydd hefyd wedi gwneud tanio fy niddordeb i ddysgu mwy amdano.”

Ychwanegodd Oliwia Drobnica, sy’n astudio cwrs BTEC mewn gwyddoniaeth gymhwysol: “Yn bersonol, roeddwn i’n teimlo bod y profiad yn un addysgiadol iawn ac yn hwyl gan fod gofyn i mi brofi grwpiau gwaed, a oedd yn brofiad newydd. 

“Rhoddodd bersbectif newydd i mi ar y maes meddygol penodol hwn gan ennyn fy niddordeb yn y maes. 

“Roedd hefyd yn ddefnyddiol ar gyfer fy natganiad personol i’r brifysgol gan ei fod yn rhoi rhywbeth ychwanegol i mi ei drafod wrth sôn am fy astudiaethau a’m profiad yn y coleg.”

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau