Astudio Dylunio a Gwneud Dodrefn yng Ngholeg Ceredigion.
Ydych chi’n rhywun sydd wrth eich bodd yn creu, dylunio a gweithio gyda’ch dwylo? A fyddai gallu dweud ‘Fi wnaeth hwnna!’ yn rhoi ymdeimlad enfawr o falchder i chi? Yna gallai ein cyrsiau Dylunio a Gwneud Dodrefn yng Ngholeg Ceredigion fod yn berffaith ar eich cyfer.
Ar ein cyrsiau, byddwch chi’n plymio i fyd cyffrous dylunio dodrefn, lle byddwch chi’n dysgu sut i ddod â’ch syniadau’n fyw. O fraslunio’ch dyluniadau i’w gwneud yn ddarnau hardd, ymarferol, byddwch chi’n cael profiad ymarferol yn ein gweithdai llawn offer. Byddwch yn dysgu popeth am bren, offer, dylunio a llunio, ac yn datblygu’r holl sgiliau sydd eu hangen arnoch i droi eich brwdfrydedd yn yrfa neu’n fusnes boddhaus.
A’r rhan orau? Byddwch yn rhan o gymuned gefnogol o gyd-artistiaid a chrefftwyr sy’n rhannu eich brwdfrydedd. Felly, os ydych chi’n barod i droi eich brwdfrydedd am ddylunio a gwneud yn yrfa werth chweil, llenwch ffurflen gais, dewch draw i’n gweld ni mewn diwrnod agored ac awn ati i greu rhywbeth anhygoel gyda’n gilydd.
Pam astudio Dylunio a Gwneud Dodrefn gyda ni?
Past Students
Mae cyn-fyfyrwyr wedi mynd ymlaen i…
- Ddangos eu gwaith mewn arddangosfeydd mawreddog yn Llundain.
- Cystadlu mewn cystadlaethau WorldSkills fel rhan o dîm y DU.
Newyddion Perthnasol...
Mae myfyrwyr Coleg Ceredigion wedi bod yn archwilio dylunio dodrefn yn yr Iseldiroedd gan brofi sut mae gwahanol ddeunyddiau a thechnegau gwneud yn gwahaniaethu i'w hastudiaethau eu hunain yn y grefft.
Mae Hephzibah Huggins yn fyfyrwraig dylunio dodrefn ysbrydoledig a chreadigol sy'n gwau ei hangerdd dros natur leol a'r Gymraeg i’w gwaith.
Yr hyn sy'n gwneud Hephzibah yn berson hyd yn oed yn fwy arbennig yw bod ganddi fath prin o ganser y gwaed. Mae hi wedi cael sawl triniaeth cemotherapi a thrallwysiadau gwaed gydag ymweliadau di-ri â'r ysbyty, a hynny am o leiaf pythefnos ar y tro