Skip page header and navigation

Recent press releases

Mae tair arweinyddes yng Ngholeg Sir Gâr yn hybu caredigrwydd fel gwerth craidd mewn rheolaeth, gyda’r nod o feithrin amgylchedd campws mwy cynhyrchiol, ymgysylltiol ac arloesol.

Amy Nisbet being awarded at teaching and learning award by female executive

Mae gwefan newydd yn cael ei dadorchuddio yng Ngholeg Sir Gâr a Choleg Ceredigion sy’n cynnwys llwyfan newydd ei gynllunio, sy’n canolbwyntio ar fyfyrwyr, gyda llywio gwell a gwelliant i brofiad y dysgwr.

A screenshot of the website featuring three students holding A-level certificates

Mae myfyrwyr y cyfryngau yng Ngholeg Ceredigion wedi cymryd rhan mewn gweithdai gyda chwmni ffilm Amdani fel rhan o’i gystadleuaeth ffilm fer, Ton Newydd Cymru.

Huw Penallt Jones portrait pic, pictured in a shirt and a hat.

Gwnaeth Owain Gravell, myfyriwr Safon Uwch yng Ngholeg Sir Gâr gwblhau hanner marathon yn ddiweddar ym Munich, Yr Almaen. Mae Owain wedi marcio carreg filltir yn ei yrfa athletaidd trwy gwblhau ei hanner marathon swyddogol cyntaf.

Owain Gravell running in Munich half marathon giving a thumbs up

Gwahoddwyd myfyrwyr arlwyo a lletygarwch yng Ngholeg Ceredigion i arddangos eu sgiliau coginiol proffesiynol yn y Senedd yng Nghaerdydd, mewn digwyddiad gyda’r Ymddiriedolaeth Cadwraeth Helwriaeth a Bywyd Gwyllt (GWCT).

Lecturer working in the Senedd kitchen

Mae Katalogen, band a ffurfiwyd yng Ngholeg Sir Gâr wedi rhyddhau eu EP cyntaf, Clay Chums, dros yr haf a chafodd eu cân, I don’t understand, ei chwarae ar BBC Wales.

Katalogen band performing on stage

Ar ôl colli dwy flynedd o ysgol oherwydd anawsterau iechyd meddwl, dychwelodd Angelina i addysg yng Ngholeg Sir Gâr a chwblhau ei TGAU mewn Mathemateg, Gwyddoniaeth a Saesneg yn llwyddiannus, gan ennill graddau A*, A*, a B.

Image of GCSE student Angelina

Bydd myfyrwyr peirianneg fecanyddol yng Ngholeg Sir Gâr yn parhau i elwa ar adnewyddiad diweddar achrediad y coleg gan Sefydliad y Peirianwyr Mecanyddol (IMechE).

Karen, head of engineering with lecturer Chris and two engineering degree students

Mae myfyrwyr ar gampws amaethyddol y Gelli Aur Coleg Sir Gâr yn falch iawn i arddangos cit rygbi newydd sbon a ariannwyd gan Gyllideb Gyfranogol Undeb Myfyrwyr y coleg ac a gefnogwyd gan dair elusen iechyd meddwl sy’n canolbwyntio ar faes amaethyddiaeth.

A group outside including students, charity reps and rugby squad

Bu staff addysgu Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion yn cymryd rhan mewn gweithdy diwydiant deuddydd ym Mharc Sŵolegol Wild. Yno cawsant ychydig o fewnwelediad i arferion diweddaraf y diwydiant yn ymwneud â lles anifeiliaid ar amrywiaeth o anifeiliaid sŵolegol yn cynnwys marmosetiaid a lemyriaid.

All the staff pictured outside with various birds

Mae myfyrwyr amaethyddol ar gampws y Gelli Aur Coleg Sir Gâr yn dysgu am dechnoleg dronau a sut y gall gefnogi arferion ffermio.

The remote control of the drone with grass as a background

Mae’n bleser gan Ysgol Gelf Caerfyrddin gyhoeddi Gwaddol, arddangosfa arbennig sy’n rhan o Ŵyl Ffoto Cymru eleni.

Legacy exhibition poster with details of event and image

Mae myfyrwyr yng Ngholeg Sir Gâr yn elwa ar glwb jiwdo amser cinio rhad ac am ddim o’r enw Jiwdo Sir Gâr sy’n cael ei redeg mewn partneriaeth â Sanshirokwai Dojo yn Llanelli.

A group of participants in the gym wearing white judo outfits

Mae darlithydd arlwyo a lletygarwch Coleg Ceredigion, Huw Morgan, unwaith eto wedi’i wahodd i feirniadu yn nigwyddiad mawreddog Young Chef Young Waiter Cymru. Hon fydd trydedd flwyddyn Huw yn gwasanaethu fel beirniad yn y gystadleuaeth fyd-enwog hon.

Image of Huw Mrgan

Mae Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion wedi cael eu cydnabod gyda gwobr am eu gwelliant parhaus mewn dysgu ar gyfer gyrfaoedd a byd gwaith.

Becky and Ffion from BeAmbitious team holding up award certificate in front of banner