Newyddion
Recent press releases
Fe wnaeth Gweinidog Llywodraeth y DU Anna McMorrin, ymgymryd ag ymweliad swyddogol â champws Gelli Aur Coleg Sir Gâr i gael tro o gwmpas ei Academi Sgiliau Gwyrdd a lansiwyd yn ddiweddar. Cafodd weld yn uniongyrchol hefyd sut mae cyllid y Gronfa Ffyniant Gyffredin (SPF) yn helpu i ddarparu uwchsgilio arwyddocaol mewn cynaliadwyedd a sgiliau gwyrdd.
Mae pobl yn cyrraedd gyrfaoedd ym maes iechyd a gofal cymdeithasol mewn gwahanol ffyrdd - ac i lawer, diploma galwedigaethol yw'r llwybr sy'n eu harwain yno ac yn eu harwain i'r brifysgol.
Mae myfyrwyr yng Ngholeg Sir Gâr wedi bod yn gweithio gyda chwmni lleol The Secret PlantHouse yn Llanelli, i roi profiad iddynt wrth gyflwyno syniadau marsiandïaeth weledol
Mae myfyrwyr adeiladu Coleg Ceredigion wedi dychwelyd o Ddenmarc lle buont yn teithio er mwyn ehangu eu dealltwriaeth o arferion adeiladu y tu hwnt i’r DU.
Mae myfyrwyr chwaraeon yng Ngholeg Sir Gâr ar fin profi taith unwaith mewn oes wrth iddynt baratoi i deithio i Ganada fel rhan o daith addysgol, chwaraeon, a diwylliannol sydd ar ddod.
Fe fydd 63 o fyfyrwyr yn mynd ar y daith a wnaed yn bosibl gan nawdd hael gan gwmni Vaughan Construction.
Mae myfyriwr peirianneg amaethyddol yng Ngholeg Sir Gâr sydd bellach yn gweithio’n llawn amser i gwmni Gwili Jones, gwerthwyr tractorau a pheiriannau fferm, wedi ennill Gwobr fawreddog Prosiect Myfyriwr IAgrE ar gyfer 2025.
Mae Abigail Hetherington yn diwtor mewn gosod trydanol yng Ngholeg Sir Gâr sy’n awyddus i annog mwy o fyfyrwyr sy’n ferched i ymuno â’r crefftau adeiladu.
Mae myfyrwyr busnes Coleg Ceredigion wedi codi dros £450 mewn digwyddiad a drefnwyd ganddynt fel rhan o’u cwrs.
Mae myfyrwyr busnes yng Ngholeg Sir Gâr wedi codi bron £400 ar gyfer elusen Mind, gyda digwyddiad a welodd Darth Vader a stormfilwyr yn gwneud ymddangosiad arbennig.
Mae dysgwyr a staff ar draws Coleg Sir Gâr wedi llwyddo i godi’r swm aruthrol o £1,100 i gefnogi Diwrnod Porffor, gan helpu i godi ymwybyddiaeth o epilepsi a SUDEP (Marwolaeth Sydyn Annisgwyl o ganlyniad i Epilepsi) trwy gyfres o ddigwyddiadau creadigol a chynhwysol.
Yn ddiweddar dychwelodd myfyrwyr iechyd a gofal cymdeithasol Coleg Ceredigion - ynghyd â’r rheiny sy’n dilyn cwrs mynediad i wyddorau iechyd, o ymweliad astudio cyfoethogi ag Utrecht yn yr Iseldiroedd.
Mae myfyrwyr yn Ysgol Gelf Caerfyrddin Coleg Sir Gâr yn arddangos eu gwaith diwedd blwyddyn ar gampws Heol Ffynnon Job yr ysgol yng Nghaerfyrddin ac maen nhw’n croesawu ymwelwyr i gefnogi artistiaid newydd datblygol.
Mae myfyrwyr trin gwallt yng Ngholeg Sir Gâr wedi ymestyn eu hyfforddiant proffesiynol gyda chwrs arbenigol wyth wythnos mewn gwallt affro a gwallt gweadog.
Coleg Sir Gâr and Coleg Ceredigion’s Students’ Union were invited to the NUS Cymru celebration event in Cardiff where Women’s Officer Alys Mosey received an NUS Cymru President’s Award.
Mae Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion yn falch o gyhoeddi lansiad prentisiaethau sylfaen lefel dau newydd mewn gwaith saer a gosod brics, yn dechrau o fis Medi 2026.