Newyddion
Recent press releases
Mae Ryan Rix, sy’n raddedig o Ysgol Gelf Caerfyrddin Coleg Sir Gâr, ar hyn o bryd yn cystadlu ar raglen ITV sef M&S:Dress the Nation yn arddangos ei ddyluniadau sy’n canolbwyntio ar y gallu i addasu a hygyrchedd.
Mae myfyrwyr celf a dylunio yn Ysgol Gelf Caerfyrddin Coleg Sir Gâr wrthi yn arddangos eu gwaith celf sydd wedi cael ei osod ar hysbysfyrddau yn y safle datblygu newydd gwerth miliynau o bunnoedd ym Mhentre Awel.
Mae Emma wedi mynd o nerth i nerth yn ystod ei gyrfa fel beicwraig trac. Pan oedd ond yn 16 oed, hi oedd pencampwraig iau Ewrop ac yn 18 oed roedd yn bencampwraig genedlaethol yn y Pencampwriaethau Trac Cenedlaethol uwch.
Roedd yr ymweliad yn cynnwys gweld gorsaf dywydd Prosiect Tywydd Tywydd Tywi ar y campws sy’n llywio penderfyniadau’n ymwneud â rheoli maetholion yn y pridd, trwy ap a wnaed ar gael yn eang i ffermwyr.
Mae myfyrwyr Safon Uwch Coleg Sir Gâr unwaith eto yn dathlu eu llwyddiannau ar ddiwrnod canlyniadau, gan nodi blwyddyn arall o lwyddiant academaidd. Mae canlyniadau 2024 wedi bod yn arbennig o drawiadol, gyda llawer o fyfyrwyr yn cyflawni graddau rhagorol ac yn sicrhau lleoedd mewn prifysgolion ledled y wlad. Mae gwaith caled ac ymroddiad y myfyrwyr a'r staff wedi talu ar ei ganfed, gyda nifer o straeon llwyddiant yn dod i'r amlwg mewn gwahanol bynciau.
Mae Gwendoline wedi cael dwy flynedd brysur yng Ngholeg Sir Gȃr, yn astudio pum pwnc, ac mae hi wedi ennill graddau uchel mewn mathemateg, mathemateg bellach, cemeg, busnes a gwleidyddiaeth gan orffen gyda graddau A*, A, A, B a B.
Penderfynodd myfyriwr Coleg Ceredigion Joshua Taylorson ailsefyll ei arholiadau TGAU mewn mathemateg a Saesneg er mwyn helpu datblygu ei gyfleoedd gyrfaol o fewn Gwasanaeth Ambiwlans Cymru.
Yn ddiweddar, cwblhaodd myfyrwyr mynediad galwedigaethol Coleg Ceredigion eu gwobrau Dug Caeredin, gyda saith myfyriwr yn derbyn y wobr arian a chwech y wobr efydd.
Mae myfyrwyr ar raglenni gofal anifeiliaid ar gampws Aberystwyth Coleg Ceredigion yn elwa o sesiynau ymarferol wythnosol yn Animalarium y Borth lle maen nhw’n astudio ystod eang o anifeiliaid o gwningod i eifr i ddreigiau barfog a phryfed brigyn.
Mae diddordeb brwd wedi bod gan David Sayers mewn animeiddio erioed a dewisodd astudio cwrs TG lefel tri ar gampws Aberteifi Coleg Ceredigion gan fod y cymhwyster yn cynnwys modiwlau animeiddio.
Mae myfyrwyr cyfryngau creadigol Coleg Ceredigion wedi cymryd rhan mewn gweithdy sain tridiau unigryw gan gymathydd sain sydd wedi gweithio ar raglenni fel Gavin and Stacey, Bloodlands a The Diplomat ar Netflix. at.
Mae Oliver Lacey, sy’n fyfyriwr Coleg Ceredigion wedi cael ei enwi’n ail yn y DU am ei sgiliau coginiol yng nghystadleuaeth Pen-cogydd Risotto Ifanc y Flwyddyn Riso Gallo ar gyfer y DU ac Iwerddon, a gynhaliwyd yn Llundain.
Mae darlithydd yng Ngholeg Ceredigion wedi cael ei ddewis i gystadlu yng nghystadleuaeth fawreddog Pen-cogydd Cenedlaethol Ifanc y DU Urdd Crefft y Pen-cogyddion, 2024.
Roedd Nicola Barber am wneud cais i astudio gradd yn y brifysgol ond darganfu bod y mwyafrif o brifysgolion a oedd yn cynnig y cwrs oedd o ddiddordeb iddi, yn gofyn am TGAU mathemateg.
Bu ymweliad ag Alberta yng Nghanada i archwilio gwasanaethau gofal iechyd ac addysg yn fuddiol iawn i fyfyrwyr a staff Coleg Ceredigion.