Skip page header and navigation

Astudio’r Diwydiannau Creadigol a Thechnoleg Cerdd yng Ngholeg Sir Gâr a Choleg Ceredigion.

Os ydych chi’n frwd dros greu cynnwys sy’n mynegi eich gweledigaeth artistig ac yn cysylltu â chynulleidfaoedd, ein cyrsiau Cyfryngau Creadigol a Thechnoleg Cerdd yng Ngholeg Sir Gâr a Choleg Ceredigion yw’r cam nesaf perffaith i chi.  Mae ein cyrsiau wedi’u cynllunio i roi sgiliau creadigol, ymarferol ac academaidd lefel uchel i chi gan ddefnyddio meddalwedd a chyfarpar safon y diwydiant.  Cewch gyfle i archwilio cyfryngau digidol, ffilm, fideo, animeiddio, a chynhyrchu cerddoriaeth mewn amgylchedd ymarferol. 

Yn ein cyrsiau Cyfryngau Creadigol, byddwch yn treiddio’n ddwfn i wneud ffilmiau, animeiddio, graffeg, ffotograffiaeth, a mwy, gyda mynediad i gamerâu proffesiynol, ystafelloedd golygu gydag Apple Macs, a’r meddalwedd Adobe Creative Suite diweddaraf. Byddwch yn dysgu gan ddarlithwyr profiadol ac yn ennill profiad byd go iawn trwy friffiau cleientiaid proffesiynol a phrosiectau cydweithredol.

Mae ein cyrsiau Technoleg Cerdd yn cynnig cyfle i edrych yn fanwl ar gynhyrchu a pherfformio cerddoriaeth, gan ganolbwyntio ar beirianneg sain fyw, recordio, a rolau technegwyr.  Gydag arweiniad gan ddarlithwyr â phrofiad yn y diwydiant, byddwch yn datblygu’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer amrywiaeth eang o yrfaoedd yn y diwydiant cerddoriaeth.

Ymunwch â ni ar ddiwrnod agored i gael taith o gwmpas ein cyfleusterau, llenwch ffurflen gais a dechreuwch eich taith greadigol heddiw.

Pam astudio’r Cyfryngau Creadigol a Thechnoleg Cerdd yng Ngholeg Sir Gâr?

01
Cyfleusterau o’r radd flaenaf sy’n caniatáu i chi ennill sgiliau ymarferol trwy ddysgu uniongyrchol.
02
Ein ffocws yw sicrhau bod dysgwyr yn cael hyfforddiant cynhwysfawr sy'n eu paratoi ar gyfer ystod eang o gyfleoedd gyrfaol
03
Timau brwdfrydig a phrofiadol sy’n ymroddedig i gyflwyno hyfforddiant sy’n berthnasol i’r diwydiant

Past Students

Tlysau gwydr wedi'u gosod ar fwrdd

Mae cyn-fyfyrwyr wedi mynd ymlaen i…

  • Ryddhau eu EPs eu hunain 
  • Cychwyn eu cwmnïau cynhyrchu llwyddiannus eu hunain
  • Ennill enwebiadau Bafta

Newyddion Perthnasol...

Dychwelodd cyn-fyfyriwr o Goleg Ceredigion i’r coleg i rannu ei brofiad cynhyrchu gyda myfyrwyr cyfryngau creadigol a thechnoleg cyn gorffen ei flwyddyn o brofiad gwaith yn y diwydiant ac anelu am Brifysgol Llundain i arbenigo mewn ffilm.

Ricardo pointing at the presentation

Coleg Ceredigion’s Level 3 Year 2 Creative Media Production students are proud to present “More Than Cinema”, a special end-of-year showcase celebrating their creativity, skills, and ambition.

Year two media students

Mae gwaith myfyrwraig cynhyrchu yn y cyfryngau creadigol yng Ngholeg Sir Gâr wedi cael ei roi ymhlith y pump gorau yng nghystadleuaeth Time to Inspire Into Film: , sydd wedi arwain at wahoddiad i weithio gyda chynhyrchwyr ym mhencadlys Netflix yn Llundain ar gyfer cam nesaf y gystadleuaeth.

A selfie of Amber wearing a black t-shirt and she has long fair hair