Plastro
- Campws Rhydaman
- Campws Aberteifi
Rydyn ni’n cynnig amrywiaeth o gyrsiau Plastro yng Ngholeg Sir Gâr a Choleg Ceredigion. P’un a ydych yn newydd i’r grefft neu’n ystyried adeiladu ar brofiad presennol, mae ein hyfforddiant ymarferol yn cwmpasu popeth o dechnegau plastro sylfaenol i sgiliau uwch mewn gwaith plastro solet a ffibrog.
Byddwch yn datblygu sgiliau hanfodol mewn paratoi arwynebau, cymysgu deunyddiau, rhoi plastr ar waliau a nenfydau, a chreu gorffeniadau llyfn o ansawdd uchel – y cwbl mewn amgylchedd cefnogol gweithdy o safon y diwydiant.
Gall y cyrsiau hyn arwain at ystod o gyfleoedd gyrfaol yn y diwydiant adeiladu, gan gynnwys rolau fel plastrwr ar safle, gosodwr leinyn sych, neu arbenigwr adnewyddu treftadaeth, yn ogystal â symud ymlaen i oruchwyliaeth, rheolaeth, neu hunangyflogaeth.
Ydych chi’n barod am y cam nesaf? Cymerwch gipolwg ar ein Cyrsiau Adeiladu Lefel Prifysgol
Manylion y cwrs
- Llawn amser
- Cymysg
Cyrsiau Plastro yn Rhydaman
Plastro ac Aml-grefftau
Mae’r opsiwn hwn yn rhan o’n cwrs ‘Diploma mewn Sgiliau Crefftau Adeiladu’.
-
Cynlluniwyd y cwrs hwn i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth myfyrwyr gan eu galluogi i symud ymlaen i’r diwydiant yn eu crefft ddewisol.
Cafodd ei ddatblygu’n benodol i’w gyflwyno mewn amgylchedd hyfforddi gan ddefnyddio amodau efelychiadol ac mae’r profion wedi’u seilio ar y dysgwr yn dangos yr hyn y gall ei wneud fel unigolyn.
Caiff y cwrs ei gyflwyno gan staff tra chymwys a phrofiadol gan ddefnyddio cyfleusterau modern.
Fel rhan o’r rhaglen bydd dysgwyr hefyd yn cwblhau datblygiad sgiliau llythrennedd a rhifedd hanfodol neu sylfaenol.
Darperir cyfleoedd yn ogystal i sefyll TGAU mewn Cymraeg, Saesneg a mathemateg ac i ddatblygu’r iaith Gymraeg.
-
Defnyddir amrywiaeth o ddulliau asesu sy’n cynnwys cwestiynau gwybodaeth ysgrifenedig, profion ar-lein a phrofion sgiliau ymarferol.
Mae’r cymhwyster hwn ar gael i’w asesu drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.
-
TGAU graddau A* i G mewn Saesneg neu Gymraeg (iaith gyntaf) a mathemateg neu Adeiladu’r Amgylchedd Adeiledig L1/2 CBAC neu fyfyriwr hŷn. Byddem yn argymell bod myfyrwyr â graddau TGAU A*-D yn ystyried gwneud cais am y cymhwyster Sylfaen mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu Lefel 2.
Yn ogystal bydd angen i ymgeiswyr fynychu cyfweliad llwyddiannus. Dylai ymgeiswyr fod â diddordeb hefyd yn y grefft ddewisol a byddai tystiolaeth o allu ymarferol yn fantais.
-
Bydd angen i fyfyrwyr ddod o hyd i, a phrynu, eu cyfarpar diogelu personol (PPE) eu hunain sy’n cynnwys bŵts diogelwch, sbectol diogelwch, het galed a dillad llachar.
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a hefyd gallwch fynd i gostau ychwanegol os yw’r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.
-
Cymhwyster Sylfaen mewn Plastro, systemau mewnol a Theilsio Waliau a Lloriau.
Mae’r opsiwn hwn yn rhan o’n cwrs ‘Sylfaen mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu Lefel 2’.
-
Bydd pob dysgwr yn cwblhau chwe uned orfodol sy’n cwmpasu’r canlynol yn gyfannol:
- Cyflwyniad i’r sectorau adeiladu a’r amgylchedd adeiledig
- Cyflogaeth a sgiliau cyflogadwyedd
- Iechyd a diogelwch
Yn ychwanegol at yr unedau hyn, bydd dysgwyr yn cwblhau dwy uned grefft i dreulio amser ychwanegol yn dysgu, a fydd yn cynnwys cynllunio, cyflawni a gwerthuso tasgau cyffredin. Mae’r cymhwyster yn rhoi dealltwriaeth eang, drawsbynciol o’r sector i ddysgwyr, gan eu galluogi i wneud penderfyniadau gwybodus ynglŷn â’u datblygiad eu hunain.
Gweler yr opsiynau crefftau/peirianneg gwasanaethau adeiladu sydd ar gael.
Mae’r cymhwyster Sylfaen mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu (Lefel 2) yn galluogi dysgwyr i ddechrau datblygu eu:
- Dealltwriaeth o’r adeiladau a’r adeileddau sy’n ffurfio’r amgylchedd adeiledig a sut maen nhw’n newid, ac wedi newid, dros amser.
- Dealltwriaeth o’r crefftau, y rolau a gyrfaoedd yn y sector adeiladu a’r amgylchedd adeiledig.
- Dealltwriaeth o gylchred oes adeiladau ac adeileddau yn yr amgylchedd adeiledig a’r egwyddorion a’r prosesau cysylltiedig ar bob cam.
- Dealltwriaeth o gynaladwyedd cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol fel sy’n briodol i adeiladu a’r amgylchedd adeiledig.
- Gwybodaeth am dechnolegau sy’n dod i’r amlwg yn y sector adeiladu a’r amgylchedd adeiledig.
- Sgiliau cyflogadwyedd a’u dealltwriaeth o sut mae’r rhain yn berthnasol ac yn bwysig yn y gweithle yn y sector adeiladu a’r amgylchedd adeiledig.
- Gwybodaeth am egwyddorion gweithio mewn ffyrdd sy’n amddiffyn iechyd, diogelwch, lles a’r amgylchedd a’r gallu i’w cymhwyso.
- Gwybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth sydd eu hangen wrth gynllunio, cyflawni a gwerthuso tasgau ymarferol cyffredin mewn o leiaf dwy grefft o fewn y sector adeiladu a’r amgylchedd adeiledig.
-
I gyflawni’r cymhwyster hwn, rhaid i ddysgwyr gwblhau:
- Un prawf aml-ddewis ar sgrin, wedi’i osod a’i farcio’n allanol
- Un prosiect ymarferol wedi’i osod yn allanol, wedi’i farcio’n fewnol yn cwmpasu dau faes crefft
- Un drafodaeth dan arweiniad, wedi’i gosod yn allanol, wedi’i marcio’n fewnol
-
- TGAU graddau A* i D mewn mathemateg a Saesneg neu Gymraeg iaith neu
- Lefel 1 / 2 CBAC mewn adeiladu’r amgylchedd adeiledig neu
- gymhwyster lefel un sy’n gysylltiedig ag adeiladu
- Mae croeso i ddysgwyr hŷn wneud cais ac mae’n amodol ar gyfweliad
Yn ogystal, bydd angen i ymgeiswyr fynychu cyfweliad llwyddiannus. Dylai ymgeiswyr fod â diddordeb hefyd yn y grefft ddewisol a byddai tystiolaeth o allu ymarferol yn fantais.
-
Bydd angen i fyfyrwyr ddod o hyd i, a phrynu, eu cyfarpar diogelu personol (PPE) eu hunain sy’n cynnwys bŵts diogelwch, sbectol diogelwch, het galed a dillad llachar.
Yn ogystal mae angen i fyfyrwyr brynu eu deunydd ysgrifennu eu hunain a hefyd gallwch fynd i gostau ychwanegol os yw’r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.
-
Plastro Solet
Mae’r opsiwn hwn yn rhan o’n cwrs ‘Dilyniant mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu’.
-
Nod y cymhwyster yw datblygu eich sgiliau ymhellach cyn eich bod yn cychwyn prentisiaeth.
Cewch eich addysgu mewn gweithdy hyfforddi pwrpasol sy’n efelychu amgylcheddau adeiladu byd go iawn ac sy’n caniatáu ar gyfer digon o ddysgu ymarferol.
Caiff y cwrs ei gyflwyno gan staff tra chymwys a phrofiadol gan ddefnyddio cyfleusterau modern.
Yn ogystal â’ch unedau ‘crefft’, byddwch chi hefyd yn cwblhau tair uned ‘graidd’ sy’n cwmpasu:
- Cyflogaeth
- Sgiliau Cyflogadwyedd
- Arferion adeiladu cyffredinol.
Fel rhan o’r rhaglen bydd dysgwyr hefyd yn cwblhau datblygiad sgiliau llythrennedd a rhifedd hanfodol neu sylfaenol. Darperir cyfleoedd yn ogystal i sefyll TGAU mewn Cymraeg, Saesneg a mathemateg ac i ddatblygu’r iaith Gymraeg.
-
I gyflawni’r cymhwyster hwn, rhaid i ddysgwyr gwblhau:
- un prawf aml-ddewis, wedi’i osod a’i farcio’n allanol.
- un prosiect ymarferol wedi’i osod yn allanol, wedi’i farcio’n fewnol yn cwmpasu maes eu crefft ddewisol
- un drafodaeth, wedi’i gosod yn allanol, wedi’i marcio’n fewnol
-
Mae’n addas ar gyfer dysgwyr sydd wedi cyflawni’r cymhwyster Sylfaen mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu ond sydd heb gyflogwr hyd yma er mwyn mynd ymlaen i brentisiaeth.
-
Bydd gofyn i fyfyrwyr ddod o hyd i, a phrynu, eu Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) eu hunain sy’n cynnwys bŵts diogelwch, sbectol diogelwch, het galed a dillad llachar.
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a hefyd gallwch fynd i gostau os yw’r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.
-
Cyrsiau Plastro yn Aberteifi
-
Bydd pob dysgwr yn cwblhau chwe uned graidd orfodol sy’n cwmpasu’r canlynol yn gyfannol:
- Cyflwyniad i’r sectorau adeiladu a’r amgylchedd adeiledig
- Cyflogaeth a sgiliau cyflogadwyedd
- Iechyd a diogelwch
Yn ychwanegol at yr unedau hyn, bydd dysgwyr yn cwblhau dwy uned grefft i dreulio amser ychwanegol yn dysgu, a fydd yn cynnwys cynllunio, cyflawni a gwerthuso tasgau cyffredin. Mae’r cymhwyster yn rhoi dealltwriaeth eang, drawsbynciol o’r sector i ddysgwyr, gan eu galluogi i wneud penderfyniadau gwybodus ynglŷn â’u datblygiad eu hunain. Gweler hefyd yr adran ar yr opsiynau sydd ar gael.
Mae’r cymhwyster Sylfaen mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu (lefel 2) yn galluogi dysgwyr i ddechrau datblygu eu:
- Dealltwriaeth o’r adeiladau a’r adeileddau sy’n ffurfio’r amgylchedd adeiledig a sut maen nhw’n newid, ac wedi newid, dros amser.
- Dealltwriaeth o’r crefftau, y rolau a gyrfaoedd yn y sector adeiladu a’r amgylchedd adeiledig.
- Dealltwriaeth o gylchred oes adeiladau ac adeileddau yn yr amgylchedd adeiledig a’r egwyddorion a’r prosesau cysylltiedig ar bob cam.
- Dealltwriaeth o gynaladwyedd cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol fel sy’n briodol i adeiladu a’r amgylchedd adeiledig.
- Gwybodaeth am dechnolegau sy’n dod i’r amlwg yn y sector adeiladu a’r amgylchedd adeiledig.
- Sgiliau cyflogadwyedd a’u dealltwriaeth o sut mae’r rhain yn berthnasol ac yn bwysig yn y gweithle yn y sector adeiladu a’r amgylchedd adeiledig.
- Gwybodaeth am egwyddorion gweithio mewn ffyrdd sy’n amddiffyn iechyd, diogelwch, lles a’r amgylchedd a’r gallu i’w cymhwyso.
Gwybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth sydd eu hangen wrth gynllunio, cyflawni a gwerthuso tasgau ymarferol cyffredin mewn o leiaf dwy grefft o fewn y sector adeiladu a’r amgylchedd adeiledig.