Skip page header and navigation

Cyrsiau Plymio

  • Campws Rhydaman
Yn amrywio yn ôl lefel

Rydyn ni’n cynnig amrywiaeth o gyrsiau Gwaith Plymwr yng Ngholeg Sir Gâr a Choleg Ceredigion. P’un a ydych chi yn dechrau neu’n ystyried datblygu eich sgiliau, mae ein hyfforddiant ymarferol yn cwmpasu popeth o bibwaith sylfaenol a systemau gwaith plymwr i dechnegau uwch mewn gwresogi, draenio a chynnal a chadw.

Byddwch yn datblygu sgiliau hanfodol mewn mesur, torri, plygu, a gosod peipiau, yn ogystal â gosod a chynnal a chadw offer plymwaith  – y cwbl mewn amgylchedd cefnogol gweithdy o safon y diwydiant.

Gall y cyrsiau hyn arwain at ystod eang o gyfleoedd gyrfaol yn y sector gwasanaethau adeiladu, gan gynnwys rolau fel gwaith plymwr domestig neu fasnachol, peiriannydd gwresogi, neu symud ymlaen i ddylunio plymwaith, rheolaeth, neu hunangyflogaeth.


Ydych chi’n barod am y cam nesaf? Cymerwch gipolwg ar ein Cyrsiau Adeiladu Lefel Prifysgol

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Llawn amser
Iaith:
  • Cymysg
Hyd y cwrs:
Yn amrywio yn ôl lefel

Cyrsiau Plymio yn Rhydaman

Sgiliau Trydanol a Phlymio Cyffredinol

Mae’r opsiwn hwn yn rhan o’n cwrs ‘Diploma mewn Astudiaethau Gwasanaethau Adeiladu’.

  • Cynlluniwyd y cwrs hwn i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth myfyrwyr gan eu galluogi i symud ymlaen i’r diwydiant yn eu crefft ddewisol.   

    Cafodd ei ddatblygu’n benodol i’w gyflwyno mewn amgylchedd hyfforddi gan ddefnyddio amodau efelychiadol ac mae’r profion wedi’u seilio ar y dysgwr yn dangos yr hyn y gall ei wneud fel unigolyn.  

    Caiff y cwrs ei gyflwyno gan staff tra chymwys a phrofiadol gan ddefnyddio cyfleusterau modern.  Hefyd, fel rhan o’r rhaglen, bydd dysgwyr yn cwblhau sgiliau hanfodol neu sylfaenol. 

    Darperir cyfleoedd yn ogystal i sefyll TGAU mewn Cymraeg, Saesneg a mathemateg ac i ddatblygu’r iaith Gymraeg. 

  • Defnyddir amrywiaeth o ddulliau asesu sy’n cynnwys cwestiynau gwybodaeth ysgrifenedig, profion ar-lein a phrofion sgiliau ymarferol.  

  • TGAU graddau A* i G mewn Saesneg neu Gymraeg (iaith gyntaf) a mathemateg neu Adeiladu’r Amgylchedd Adeiledig L1/2 CBAC neu fyfyriwr hŷn.  Byddem yn argymell bod myfyrwyr â graddau TGAU A*-D yn ystyried gwneud cais am y cymhwyster Sylfaen mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu Lefel 2.  

    Yn ogystal bydd angen i ymgeiswyr fynychu cyfweliad llwyddiannus. Dylai ymgeiswyr fod â diddordeb hefyd yn y grefft ddewisol a byddai tystiolaeth o allu ymarferol yn fantais.

  • Bydd angen i fyfyrwyr ddod o hyd i, a phrynu, eu cyfarpar diogelu personol (PPE) eu hunain sy’n cynnwys bŵts diogelwch, sbectol diogelwch, het galed a dillad llachar. 

    Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru. 

    Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a hefyd gallwch fynd i gostau ychwanegol os yw’r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.

Gwaith Plymwr, Gwresogi, Awyru a Systemau a Chyfarpar Electrodechnegol. 

Neu
Gwaith Plymwr, Gwresogi, Awyru a Systemau a Theilsio Waliau a Lloriau.

Mae’r opsiwn hwn yn rhan o’n cwrs ‘Sylfaen mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu’.

  • Bydd pob dysgwr yn cwblhau chwe uned orfodol sy’n cwmpasu’r canlynol yn gyfannol:

    • Cyflwyniad i’r sectorau adeiladu a’r amgylchedd adeiledig
    • Cyflogaeth a sgiliau cyflogadwyedd
    • Iechyd a diogelwch

    Yn ychwanegol at yr unedau hyn, bydd dysgwyr yn cwblhau dwy uned grefft i dreulio amser ychwanegol yn dysgu, a fydd yn cynnwys cynllunio, cyflawni a gwerthuso tasgau cyffredin. Mae’r cymhwyster yn rhoi dealltwriaeth eang, drawsbynciol o’r sector i ddysgwyr, gan eu galluogi i wneud penderfyniadau gwybodus ynglŷn â’u datblygiad eu hunain.  

    Gweler yr opsiynau crefftau/peirianneg gwasanaethau adeiladu sydd ar gael. 

    Mae’r cymhwyster Sylfaen mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu (Lefel 2) yn galluogi dysgwyr i ddechrau datblygu eu:

    • Dealltwriaeth o’r adeiladau a’r adeileddau sy’n ffurfio’r amgylchedd adeiledig a sut maen nhw’n newid, ac wedi newid, dros amser.
    • Dealltwriaeth o’r crefftau, y rolau a gyrfaoedd yn y sector adeiladu a’r amgylchedd adeiledig.
    • Dealltwriaeth o gylchred oes adeiladau ac adeileddau yn yr amgylchedd adeiledig a’r egwyddorion a’r prosesau cysylltiedig ar bob cam.
    • Dealltwriaeth o gynaladwyedd cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol fel sy’n briodol i adeiladu a’r amgylchedd adeiledig.
    • Gwybodaeth am dechnolegau sy’n dod i’r amlwg yn y sector adeiladu a’r amgylchedd adeiledig.
    • Sgiliau cyflogadwyedd a’u dealltwriaeth o sut mae’r rhain yn berthnasol ac yn bwysig yn y gweithle yn y sector adeiladu a’r amgylchedd adeiledig.
    • Gwybodaeth am egwyddorion gweithio mewn ffyrdd sy’n amddiffyn iechyd, diogelwch, lles a’r amgylchedd a’r gallu i’w cymhwyso.

    Gwybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth sydd eu hangen wrth gynllunio, cyflawni a gwerthuso tasgau ymarferol cyffredin mewn o leiaf dwy grefft o fewn y sector adeiladu a’r amgylchedd adeiledig.

  • I gyflawni’r cymhwyster hwn, rhaid i ddysgwyr gwblhau:

    • Un prawf aml-ddewis ar sgrin, wedi’i osod a’i farcio’n allanol
    • Un prosiect ymarferol wedi’i osod yn allanol, wedi’i farcio’n fewnol yn cwmpasu dau faes crefft
    • Un drafodaeth dan arweiniad, wedi’i gosod yn allanol, wedi’i marcio’n fewnol
    • TGAU graddau A*-D mewn Saesneg neu Gymraeg (Iaith 1af), Mathemateg ac un arall yn ddelfrydol yn ymwneud â Gwyddoniaeth neu
    • Lefel 1 / 2 CBAC mewn Adeiladu’r Amgylchedd Adeiledig neu
    • Gymhwyster Lefel 1 sy’n gysylltiedig ag Adeiladu neu
    • Ddysgwyr hŷn yn amodol ar gyfweliad

    Yn ogystal, bydd angen i ymgeiswyr fynychu cyfweliad llwyddiannus. Dylai ymgeiswyr fod â diddordeb hefyd yn y grefft ddewisol a byddai tystiolaeth o allu ymarferol yn fantais.

  • Bydd angen i fyfyrwyr ddod o hyd i, a phrynu, eu cyfarpar diogelu personol (PPE) eu hunain sy’n cynnwys bŵts diogelwch, sbectol diogelwch, het galed a dillad llachar.

    Yn ogystal mae angen i fyfyrwyr brynu eu deunydd ysgrifennu eu hunain a hefyd gallwch fynd i gostau ychwanegol os yw’r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.

    Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.

Gwaith Plymwr a Gwresogi

Mae’r opsiwn hwn yn rhan o’n cwrs ‘Dilyniant mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu’.

  • Nod y cymhwyster yw datblygu eich sgiliau ymhellach cyn eich bod yn cychwyn prentisiaeth.

    Cewch eich addysgu mewn gweithdy hyfforddi pwrpasol sy’n efelychu amgylcheddau adeiladu byd go iawn ac sy’n caniatáu ar gyfer digon o ddysgu ymarferol.

    Caiff y cwrs ei gyflwyno gan staff tra chymwys a phrofiadol gan ddefnyddio cyfleusterau modern.  

    Yn ogystal â’ch unedau ‘crefft’, byddwch chi hefyd yn cwblhau tair uned ‘graidd’ sy’n cwmpasu:

    • Cyflogaeth
    • Sgiliau Cyflogadwyedd
    • Arferion adeiladu cyffredinol.

    Fel rhan o’r rhaglen bydd dysgwyr hefyd yn cwblhau datblygiad sgiliau llythrennedd a rhifedd hanfodol neu sylfaenol. Darperir cyfleoedd yn ogystal i sefyll TGAU mewn Cymraeg, Saesneg a mathemateg ac i ddatblygu’r iaith Gymraeg.

  • I gyflawni’r cymhwyster hwn, rhaid i ddysgwyr gwblhau:

    • un prawf aml-ddewis, wedi’i osod a’i farcio’n allanol.
    • un prosiect ymarferol wedi’i osod yn allanol, wedi’i farcio’n fewnol yn cwmpasu maes eu crefft ddewisol
    • un drafodaeth, wedi’i gosod yn allanol, wedi’i marcio’n fewnol
  • Mae’n addas ar gyfer dysgwyr sydd wedi cyflawni’r cymhwyster Sylfaen mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu ond sydd heb gyflogwr hyd yma er mwyn mynd ymlaen i brentisiaeth.

  • Bydd gofyn i fyfyrwyr ddod o hyd i, a phrynu, eu Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) eu hunain sy’n cynnwys bŵts diogelwch, sbectol diogelwch, het galed a dillad llachar.

    Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.

    Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a hefyd gallwch fynd i gostau os yw’r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.