Prentisiaeth mewn Gwaith Asiedydd Pensaernïol
- Campws Aberteifi
Datblygwch eich sgiliau crefft uwch a chymerwch y cam nesaf yn eich gyrfa gyda’r Brentisiaeth Lefel 3 hon mewn Gwaith Asiedydd Pensaernïol. Gan gyfuno dysgu yn y gweithle â hyfforddiant yn y coleg, mae’r rhaglen hon yn eich helpu i ddatblygu’r wybodaeth dechnegol, yr arbenigedd ymarferol, a’r manyldra sydd ei angen arnoch i gynhyrchu cynhyrchion gwaith asiedydd ansawdd uchel i safonau’r diwydiant.
Byddwch yn datblygu sgiliau mewn cynhyrchu gwaith asiedydd arferol a phwrpasol, gosod allan, defnyddio peiriannau arbenigol, ac arferion adeiladu cynaliadwy, wrth gryfhau eich gallu i ddatrys problemau a’ch craffter proffesiynol. Wedi’i chyflwyno mewn partneriaeth â chyflogwyr, mae’r brentisiaeth hon yn eich cefnogi i ddod yn asiedydd medrus iawn, sy’n barod ar gyfer y diwydiant gyda chyfleoedd dilyniant cryf.
Manylion y cwrs
- Rhan amser
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
-
Nodweddion y Rhaglen
-
Dilyniant a Chyflogaeth
-
Cynnwys y Rhaglen
-
Dull asesu
-
Costau Ychwanegol
-
Gofynion Mynediad
Mae’r brentisiaeth hon yn cyfuno hyfforddiant ymarferol uwch gyda dysgu technegol mewn amgylchedd gwaith go iawn. Byddwch yn datblygu sgiliau mewn cynhyrchu gwaith asiedydd pwrpasol ac arferol, gosod allan, gweithredu peiriannau, cynllunio a gwerthuso eich gwaith, ac arferion adeiladu cynaliadwy.
Byddwch yn adeiladu sgiliau crefft manwl, yn meithrin hyder, a chymhwysedd galwedigaethol, tra bod cyflogwyr yn elwa o ddatblygu staff hyfforddedig i safonau cydnabyddedig y diwydiant.
Fel prentis llwyddiannus gallwch chi symud ymlaen i rolau ym maes gwaith asiedydd pensaernïol, gwaith asiedydd mainc, gweithgynhyrchu arbenigol, a swyddi goruchwyliol. Mae’r rhaglen hefyd yn darparu cyfleoedd dilyniant i chi i brentisiaethau lefel uwch a llwybrau technegol neu reolaeth o fewn y sectorau adeiladu a gweithgynhyrchu.
Byddwch yn cymryd rhan mewn dysgu ymarferol a dysgu sy’n seiliedig ar wybodaeth, gan gwmpasu arferion adeiladu yng Nghymru, iechyd a diogelwch, cynllunio a gwerthuso eich gwaith, cynhyrchu gwaith asiedydd arferol a phwrpasol, gosod allan, a defnyddio peiriannau sefydlog a chludadwy yn ddiogel. Byddwch yn datblygu cymhwysedd galwedigaethol trwy hyfforddiant yn y gwaith ac i ffwrdd o’r gwaith, gyda chefnogaeth profiad dan arweiniad cyflogwyr a darpariaeth y coleg.
Byddwch hyn cael eich asesu drwy brofion ar-sgrin, prosiect ymarferol, trafodaeth broffesiynol, ac adolygiadau parhaus o’ch cymhwysedd yn y gweithle. Bydd eich gwybodaeth dechnegol, eich perfformiad ymarferol, a’ch adfyfyrio proffesiynol yn cael eu mesur yn erbyn safonau’r diwydiant .
Efallai y bydd angen cyfarpar diogelu personol ac offer llaw sylfaenol arnoch, yn dibynnu ar drefniadau eich cyflogwr. Bydd unrhyw gostau ychwanegol yn cael eu trafod ar ddechrau’r rhaglen, gyda llawer o gyflogwyr yn cefnogi’r gofynion hyn.
Rhaid i chi fod yn 16 oed neu’n hŷn ac yn gweithio mewn rôl gwaith asiedydd berthnasol. Mae’r rhaglen hon wedi’i chynllunio ar eich cyfer chi os ydych yn bwriadu datblygu sgiliau technegol a chrefft uwch o fewn y grefft.
Dylai fod gennych o leiaf TGAU Gradd D (neu gyfwerth) mewn Saesneg, Mathemateg ac un pwnc technegol, ynghyd â diddordeb brwd mewn gwaith asiedydd a dilyniant gyrfaol o fewn y sector adeiladu.