Skip page header and navigation

Diploma AAT ar gyfer Technegwyr Cyfrifyddu Proffesiynol: - Lefel 4

  • Campws Pibwrlwyd
1 Blwyddyn

Mae’r Diploma AAT ar gyfer Technegwyr Cyfrifyddu Proffesiynol yn cynnig hyfforddiant technegol mewn cyfrifyddu ac mae’n addas ar eich cyfer chi os ydych chi:

  • wedi cwblhau’r Diploma Lefel 3 mewn Cyfrifyddu;
  • angen cydnabyddiaeth ffurfiol o’ch sgiliau
  • hoffech chi ddod yn aelod llawn o AAT
  • hoffech chi ddechrau eich busnes eich hun.

Byddwch yn datblygu ystod eang o sgiliau, yn cynnwys:

  • Drafftio datganiadau ariannol
  • Ennill gwybodaeth a sgiliau mewn technegau cyfrifyddu rheoli cymhleth
  • Dadansoddi systemau rheoli mewnol fel rhan o’r broses archwilio
  • Gwneud cyfrifiadau treth ar gyfer trethdalwyr a chwmnïau’r DU

Bydd yr AAT yn gofyn eich bod yn cofrestru gyda’r corff proffesiynol.  Gall cyfyngiadau aelodaeth fod yn berthnasol.  Mae gwybodaeth ar gael yn www.aat.org.uk.
Mae ffioedd cwrs yn berthnasol sy’n talu am hyfforddiant a sefyll eich arholiad cychwynnol  - mae prisiau ar gael ar gais.

menyw ar liniadur

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Rhan amser
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
1 Blwyddyn

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae’r cwrs yn cynnwys pynciau a thasgau cyfrifyddu a chyllid lefel uchel. Byddwch yn ymgyfarwyddo ag amrywiaeth eang o sgiliau a chymwysiadau ariannol a rheoli, yn ennill cymwyseddau’n ymwneud â drafftio datganiadau ariannol, yn adolygu ac adrodd ar gasgliadau archwiliadau, ac yn llunio a chyflwyno adroddiadau cyfrifyddu rheoli cymhleth.  Yn ogystal byddwch yn clywed am feysydd arbenigol megis cyfundrefn drethu’r DU, archwiliadau, a sgiliau busnes ymarferol.

Dull Astudio

Byddwch yn mynychu sesiynau wythnosol ar y campws gyda staff gwybodus a chefnogol.  Bydd trafodaethau cyson gyda chydfyfyrwyr yn eich helpu chi i atgyfnerthu pwyntiau allweddol wrth ddarparu hefyd y gefnogaeth ychwanegol a’r cymhelliant a ddaw yn sgil bod yn rhan o grŵp.

Mae’r Diploma AAT ar gyfer Technegwyr Cyfrifyddu Proffesiynol yn cwmpasu’r unedau gorfodol canlynol:

  • Cyfrifyddu Ariannol
  • Cyfrifyddu Rheoli
  • Archwilio a Rheolaethau Mewnol
  • Egwyddorion Trethiant
  • Ymwybyddiaeth Busnes Uwch 

Cewch eich asesu’n unigol drwy asesiadau cyfrifiadurol diwedd uned, amser gyfyngedig, dan amodau rheoledig.

Ar ôl cymhwyso a bodloni meini prawf yr AAT, byddwch yn gallu gwneud cais am aelodaeth lawn yr AAT, a fydd yn caniatáu i chi ddefnyddio’r llythrennau dynodol MAAT ar ôl eich enw.
Gall y cymhwyster arwain at amrywiaeth o swyddi cyfrifeg a chyllid sy’n talu’n dda, megis: 

  • Cyfrifydd
  • Archwilydd Cynorthwyol
  • Goruchwyliwr Cyfrifon Taladwy a Threuliau
  • Cyfrifydd Ariannol Cynorthwyol
  • Cyfrifydd Rheoli Cynorthwyol
  • Dadansoddwr Masnachol
  • Ymgynghorydd Ariannol
  • Dadansoddwr Iau
  • Technegydd Cyfrifyddu Proffesiynol 

Mae cwblhau’r cwrs hwn yn rhoi cyfle i chi symud ymlaen i gymwysterau cyfrifyddu proffesiynol pellach (mae’n bosib y bydd eithriadau) neu radd.

Rhoddir amrywiaeth o fathau o gwestiynau a fformatau i chi, a all gynnwys cwestiynau amlddewis, cwestiynau llenwi bwlch rhifol, neu ddulliau cwestiynau sy’n dyblygu gweithgareddau’r gweithle, megis gwneud cofnodion mewn dyddlyfr. 

Nid yw AAT yn gosod unrhyw ragofynion ar gyfer astudio Diploma AAT ar gyfer Technegwyr Cyfrifyddu Proffesiynol.  Fodd bynnag, er mwyn cael y cyfle gorau i lwyddo, rydym yn argymell eich bod yn dechrau eich astudiaethau gyda safon dda mewn Saesneg a Mathemateg.  Mae cyfrifwyr yn gweithio wrth wraidd busnes a disgwylir iddynt allu cyfathrebu gwybodaeth yn glir ac yn briodol i gynulleidfa benodol.  Yn ddelfrydol, dylech chi hefyd fod wedi cwblhau cymwysterau AAT Lefel 2 a Lefel 3. Mae AAT yn argymell eich bod yn defnyddio  Gwiriad Sgiliau AAT i wneud yn siŵr eich bod yn barod i ddechrau cymhwyster penodol.

Mae’n bosibl y bydd myfyrwyr sydd â chymwysterau ysgol neu goleg perthnasol, gradd neu rywfaint o brofiad cyfrifyddu, mewn amgylchiadau penodol, yn gallu hawlio eithriadau.

Mae angen i fyfyrwyr ddarparu eu deunydd ysgrifennu eu hunain a gwerslyfrau (os oes angen).  Mae’n bosibl y bydd costau ychwanegol os yw’r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.

Cofrestru AAT - £258

Ffioedd Arholiad/Asesu AAT - £345

Mwy o gyrsiau Busnes, Cyllid a Rheolaeth

Chwiliwch am gyrsiau