Skip page header and navigation

Diploma Lefel 7 ILM mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth Strategol

  • Campws Pibwrlwyd
2 flynedd (un diwrnod y mis yn y coleg gyda chefnogaeth diwtorial unigol)

Mae’r Diploma Level 7 ILM hwn mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth Strategol wedi’i gynllunio ar gyfer arweinwyr uwch/strategol a rheolwyr sy’n ceisio gwella eu galluoedd arweinyddiaeth strategol. Mae’n eich galluogi i gyflawni deilliannau llwyddiannus ar gyfer eich sefydliad drwy wneud y defnydd gorau o adnoddau, datblygu cynigion masnachol posibl, arloesi, optimeiddio perfformiad, ac ysgogi effaith.

Bydd gennych y cwmpas a’r cyfle i ganolbwyntio ar eich anghenion datblygu penodol ar gyfer arweinyddiaeth strategol ac uwch-reoli. Mae’r cymhwyster yn seiliedig ar brofiad manwl ILM o ddatblygu arweinyddiaeth a rheolwyr yn effeithiol.

Y Canlyniadau i Chi:

  • Datblygu, gweithredu, a gwerthuso strategaethau arweinyddiaeth strategol lefel uchel.
  • Gwella eich datblygiad arweinyddiaeth a rheolaeth strategol yng nghyd-destunau gwaith byd go iawn.
  • Astudio pynciau sy’n cyd-fynd â’ch anghenion datblygu a chyd-destun gyda hyblygrwydd.
  • Tystio i sut y mae cwblhau’r dyfarniad yn sicrhau adennill ar fuddsoddiad  drwy ei wneud yn gyd-naws â’ch anghenion chi eich hun ac anghenion eich sefydliad.
  • Datblygu gwybodaeth a sgiliau i gefnogi eich amcanion gyrfaol ar gyfer y dyfodol.
  • Cael mynediad i gyfleoedd dilyniant i gymwysterau Lefel 7 pellach neu’r uned Lefel 8 ar gyfer Prif Weithredwyr.

Manteision i Gyflogwyr:

  • Rhoi’r offer i uwch arweinwyr i ddatblygu a gwerthuso eu perfformiad eu hunain.
  • Cyfuno datblygu arweinyddiaeth gyda phrosiectau gwaith go iawn.
  • Sicrhau perthnasedd a buddion ymarferol di-oed i’r sefydliad gydag asesiadau’n tarddu o gyd-destunau gwaith.
  • Addasu’r rhaglen i fodloni anghenion uwch arweinyddiaeth eich sefydliad a’i anghenion datblygu.
  • Dangos adenillion ar fuddsoddiad (ROI) drwy alluogi arweinwyr a rheolwyr i ddatblygu eu harferion arweinyddiaeth a rheolaeth o fewn anghenion sefydliadol real.

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Rhan amser
Hyd y cwrs:
2 flynedd (un diwrnod y mis yn y coleg gyda chefnogaeth diwtorial unigol)

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Byddwch yn mynychu sesiynau ystafell ddosbarth a addysgir yn fisol, pob un yn gysylltiedig â sesiwn diwtorial unigol ar gyfer pob uned.

Mae’r cymhwyster Lefel 7 hwn mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth Strategol yn seiliedig ar unedau, gan roi hyblygrwydd llawn i chi nodi meysydd datblygiad sy’n benodol i gyd-destun eich gwaith a’ch diddordebau. Mae’n darparu pecyn cymorth cynhwysfawr a chyflawn i chi ar gyfer Arweinwyr a Rheolwyr Strategol.

Aseiniadau ysgrifenedig fesul uned

Band K – £380

  • Swydd Uwch Arweinydd
  • Wedi astudio ar Lefel 5 o leiaf

Mwy o gyrsiau Busnes, Cyllid a Rheolaeth

Chwiliwch am gyrsiau