
Lefel 3 mewn Trin Gwallt
- Campws Aberteifi
Mae trin gwallt yn ddewis gyrfaol poblogaidd a gwerth chweil i unigolion sy’n frwdfrydig dros steilio gwallt a helpu a chynghori cleientiaid.
Mae’r cwrs hwn yn darparu’r cyfle delfrydol i ddatblygu eich creadigrwydd a herio eich sgiliau. Mae hwn yn gwrs hynod ymarferol gyda phwyslais ar ddatblygu sgiliau drwy hyfforddiant ac asesu parhaus. Mae myfyrwyr yn mynychu sesiynau salon ac ystafell ddosbarth wedi’u hamserlennu ar y pynciau canlynol:
- Iechyd a Diogelwch
- Cefnogaeth ymgynghori
- Steilio a Gwisgo Gwallt
- Torri Gwallt Menywod
- Lliwio Gwallt i Greu Amrywiaeth o Edrychiadau
- Hyrwyddo Cynhyrchion a Gwasanaethau
- Gwallt Priodasol
- Cywiro Lliw Gwallt
Manylion y cwrs
- Llawn amser
- Cymysg
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae ein salonau gwallt a harddwch wedi’u cynllunio’n benodol at ddibenion hyfforddi ac mae ganddynt yr holl gyfarpar ac adnoddau diweddaraf. Bydd angen i ymgeiswyr fod yn frwdfrydig iawn ac yn barod i weithio fel rhan o dîm. Fel adran rydym yn awyddus i annog myfyrwyr i gyrraedd eu llawn botensial drwy gymryd rhan mewn cystadlaethau mewnol a chenedlaethol hefyd. Yn ogystal rydym yn cynnal diwrnodau cyfoethogi sy’n cynnwys lliwio affinage, tyllu clustiau, farnais ewinedd gel ac estyniadau gwallt a cholur theatrig. Byddwch yn ogystal yn cael y cyfle i fynychu sioeau masnach, seminarau, gweithdai yn ogystal â theithiau a drefnir sy’n gysylltiedig â’r sector.
Rydych yn dysgu gyda’ch aseswr drwy sesiynau ymarferol, trafodaethau grŵp neu aseiniadau. Bydd gennych fynediad i amgylchedd trin gwallt realistig lle byddwch yn ymarfer ac yn arddangos eich sgiliau.
Rhestrir unedau’r cwrs yn y disgrifiad o’r rhaglen. Mae pob uned yn cynnwys elfen o waith theori a gwaith ymarferol hefyd. Bydd gwaith rhifedd a llythrennedd integredig yn ogystal o fewn yr unedau gan y bydd disgwyl i ddysgwyr gyflawni sgil hanfodol yn y ddau bwnc hyn.
Byddwch yn cwmpasu’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer arbenigedd neu dechneg benodol. Mae’r rhain yn cynnwys pethau fel torri gwallt, steilio a gwisgo gwallt, lliwio a chywiro lliw.
- Salonau
- Theatr a ffilm
- Hunangyflogedig
- Gwestai a Sbâu
- Llongau gwyliau
- Asesu
Caiff gwaith ymarferol ei asesu gan ddefnyddio dulliau arsylwi a thystiolaeth cynnyrch. Bydd y gwaith theori yn cael ei asesu gydag arholiad amlddewis ar-lein.
5 TGAU graddau C ac uwch (neu gyfwerth) i gynnwys Cymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg Iaith a Mathemateg/Rhifedd. Neu wedi cwblhau Lefel 2 mewn Trin Gwallt neu Waith Barbwr yn llwyddiannus.
Hefyd ceir prawf sgiliau ymarferol.
Bydd angen agwedd gadarnhaol ar bob ymgeisydd a bydd addasrwydd ar gyfer y cwrs yn cael ei asesu yn y cyfweliad a thrwy gydol y cyfnod cynefino.
Cit trin gwallt arbenigol lefel tri o gwmpas £140
Iwnifform tua £80.
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25.