Skip page header and navigation

Rhan Amer - Tystysgrif Lefel 3 mewn Trin Gwallt Menywod

  • Campws Y Graig
1 Flwyddyn - 6 awr yr wythnos

Dyma gwrs trin gwallt Lefel 3 rhan-amser gyda’r nos, 6 awr yr wythnos.

Mae trin gwallt yn caniatáu i chi fynegi eich creadigrwydd trwy amrywiol dechnegau steilio gwallt, cyfuniadau lliw, a thriniaethau gwallt.

Mae’r cymhwyster trin gwallt rhan-amser hwn wedi’i gynllunio ar gyfer y rheini sy’n anelu at weithio yn y diwydiant trin gwallt.

Wrth ddysgu yn salon hyfforddi’r coleg, byddwch yn datblygu’r sgiliau hanfodol sydd eu hangen ar gyfer eich llwybr gyrfa fel trinydd gwallt.

Yn ystod y cwrs, byddwch yn datblygu arbenigedd ymarferol a gwybodaeth hanfodol er mwyn symud ymlaen yn y diwydiant.

Mae’r cwrs hwn yn rhoi’r cyfleoedd ymarferol i chi sy’n caniatáu i chi gwblhau eich asesiadau a rhoi eich sgiliau ar waith mewn amgylchedd salon trin gwallt go iawn.

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Rhan amser
Iaith:
  • Cymysg
Hyd y cwrs:
1 Flwyddyn - 6 awr yr wythnos

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

●    Arholiad ymarferol
●    Asesiadau parhaus
●    Portffolio o dystiolaeth
●    Salon trin gwallt mawr, sy’n cynnwys yr holl gyfarpar angenrheidiol
●    Defnyddir cynhyrchion proffesiynol yn unig
●    Ceir asesiadau ymarferol a phrofion ar-lein ar gyfer pob uned

Monitro a chynnal Iechyd a Diogelwch yn y Salon - Uned bwysig sy’n astudio pob agwedd ar iechyd, diogelwch a pholisïau o fewn y diwydiant.

Cymorth i gydweithwyr ar Ymgynghoriadau Trin Gwallt - Dysgwch bopeth am adeiledd y gwallt a’r croen, y wyddoniaeth y tu ôl i gylchred twf gwallt, a sut i gynnal ymgynghoriadau proffesiynol, strwythuredig ar gyfer eich holl gleientiaid. Dysgu a chynnal amrywiaeth o brofion ar y gwallt, y croen a chroen y pen, adnabod a gweithio gydag amrywiaeth o ran math, hyd a lliw gwallt.

Steilio a Thrin gwallt gan ddefnyddio amrywiaeth o dechnegau - Popeth sydd angen i chi ei wybod am sychu gwallt, setio, steilio, trin gwallt a rhoi gwallt i fyny!

Lliwio Gwallt - astudiwch yr ystod o gynhyrchion lliwio a’r wyddoniaeth y tu ôl iddynt, sut maen nhw’n effeithio ar strwythur y gwallt, yr ystod o brofion sy’n ofynnol cyn unrhyw wasanaeth lliwio. Byddwch hefyd yn datblygu sgiliau ffoilio, rhoi lliw ar y pen cyfan, tynnu cynhyrchion a chyngor ôl-ofal cywir i gleientiaid.

Cywiro Lliw - uned lefel uchel sy’n gofyn i ddysgwyr wneud diagnosis o wallt a’i gywiro, tynnu’r lliw ac ail-liwio gan ddefnyddio amrywiaeth o gynhyrchion a thechnegau.

Yn dilyn y cwrs, gallech symud ymlaen i wneud cais am gwrs diploma NVQ lefel dau neu lefel tri neu geisio cyflogaeth mewn salonau masnachol, gwaith teledu, ffilm, theatr a’r cyfryngau. Gall tîm entrepreneuraidd yn y coleg gynnig arweiniad ar hunangyflogaeth.

●    Arholiad ymarferol
●    Asesiadau parhaus
●    Portffolio o dystiolaeth
●    Ceir asesiadau ymarferol a phrofion ar-lein ar gyfer pob uned

Rhaid eich bod wedi cwblhau VRQ/NVQ lefel 2 mewn Trin Gwallt.

Y ffi ar gyfer y cwrs yw £217.00

Costau ychwanegol - Mae angen pecyn trin gwallt sylfaenol sy’n costio tua £150.