Rhan Amer - Tystysgrif Lefel 2 mewn Trin Gwallt Menywod
- Campws Y Graig
Dyma gwrs trin gwallt rhan-amser, pedair awr yr wythnos.
Mae’r cwrs trin gwallt gyda’r nos hwn yn gymhwyster lefel dau sydd wedi’i gynllunio ar gyfer y rheini sy’n anelu at weithio yn y diwydiant trin gwallt.
Byddwch yn dysgu am driniaethau trin gwallt sylfaenol ac yn adeiladu sylfaen gref o sgiliau er mwyn i chi allu symud ymlaen i gyrsiau lefel uwch.
Mae’r cwrs hwn yn rhoi’r cyfleoedd ymarferol i chi sy’n caniatáu i chi gwblhau eich asesiadau a rhoi eich sgiliau ar waith mewn amgylchedd salon trin gwallt go iawn.
Noder: nid yw torri gwallt yn rhan o’r cwrs hwn; efallai y byddwch yn dysgu technegau sylfaenol, ond ni fyddwch yn cael eich asesu yn y maes hwn.
Manylion y cwrs
- Rhan amser
- Cymysg
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
● Arholiad ymarferol
● Asesiadau parhaus
● Portffolio o dystiolaeth
● Salon trin gwallt mawr, sy’n cynnwys yr holl gyfarpar angenrheidiol
● Defnyddir cynhyrchion proffesiynol yn unig
● Ceir asesiadau ymarferol a phrofion ar-lein ar gyfer pob uned
- Gweithio yn y Diwydiant Trin Gwallt - archwiliwch fyd cyffrous y diwydiant, gan edrych ar yr ystod eang o lwybrau gyrfa sydd ar gael i ymarferwyr cymwys
- Dilyn Arferion Iechyd a Diogelwch yn y Salon - Uned bwysig sy’n astudio pob agwedd ar iechyd, diogelwch a pholisïau o fewn y diwydiant
- Ymgynghoriad Cleient ar gyfer gwasanaethau trin gwallt - Dysgwch bopeth am strwythurau’r gwallt a’r croen, y wyddoniaeth y tu ôl i gylchred twf gwallt, a sut i gynnal ymgynghoriadau proffesiynol, strwythuredig ar gyfer eich holl gleientiaid. Dysgu a chynnal amrywiaeth o brofion ar y gwallt, y croen a chroen y pen, adnabod a gweithio gydag amrywiaeth o ran math, hyd a lliw gwallt.
- Siampŵo a Chyflyru’r Gwallt a Chroen y Pen - Astudiwch wyddoniaeth y cynhyrchion, sut maen nhw’n gweithio ar strwythur y gwallt, a thechnegau tylino cywir.
- Y Grefft o Drin Gwallt - Popeth sydd angen i chi ei wybod am sychu gwallt, setio, steilio, trin gwallt a rhoi gwallt i fyny!
- Y Grefft o Liwio Gwallt - astudiwch yr ystod o gynhyrchion lliwio a’r wyddoniaeth y tu ôl iddynt, sut maen nhw’n effeithio ar strwythur y gwallt, yr ystod o brofion sy’n ofynnol cyn unrhyw wasanaeth lliwio. Byddwch hefyd yn datblygu sgiliau ffoilio, rhoi lliw ar y pen cyfan, tynnu cynhyrchion a chyngor ôl-ofal cywir i gleientiaid.
Yn dilyn y cwrs, gallech symud ymlaen i wneud cais am gwrs diploma NVQ lefel dau neu lefel tri neu geisio cyflogaeth mewn salonau masnachol, gwaith teledu, ffilm, theatr a’r cyfryngau. Gall tîm entrepreneuraidd yn y coleg gynnig arweiniad ar hunangyflogaeth.
● Arholiad ymarferol
● Asesiadau parhaus
● Portffolio o dystiolaeth
● Ceir asesiadau ymarferol a phrofion ar-lein ar gyfer pob uned
Y ffi ar gyfer y cwrs yw £135
Costau ychwanegol - Mae angen pecyn trin gwallt sylfaenol sy’n costio tua £150.