Skip page header and navigation

Diploma Lefel 5 mewn Egwyddorion Arweinyddiaeth a Rheolaeth

  • Campws Pibwrlwyd
2 flynedd (un diwrnod y mis yn y coleg gyda chefnogaeth diwtorial unigol)

Mae’r cymhwyster hwn wedi’i gynllunio ar gyfer penaethiaid adran, rheolwyr cyffredinol, arweinwyr timau rhanbarthol, a rheolwyr canol eraill, newydd ac uchelgeisiol. Cewch sylfaen drylwyr yn eich rôl a’ch cyfrifoldebau, a chewch fanteisio ar y cyfle i atgyfnerthu a datblygu ymhellach y sgiliau allweddol sydd eu hangen arnoch ar y lefel hon.

Y canlyniadau i chi

  • Gwella galluoedd rheolaeth craidd
  • Datblygu gwybodaeth mewn meysydd arbenigol, fel cyllid a marchnata
  • Cymryd cyfrifoldeb dros eich datblygiad eich hun fel arweinydd
  • Profi y gallwch chi gael effaith fesuradwy ar eich sefydliad trwy brosiectau ac asesiad seiliedig ar y gweithle.
  • Meincnodi eich sgiliau rheoli gyda chymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol

Yr effaith ar eich cyflogwr

  • Adeiladu arferion rheolaeth cynaliadwy sy’n gweithio ar gyfer y tymor hir
  • Meincnodi gwybodaeth a galluoedd rheolwyr
  • Annog staff i reoli eu dilyniant gyrfaol yn rhagweithiol ar gyfer cynllunio olyniaeth ac i ddatblygu’r ffrwd ddoniau
  • Cau bylchau mewn sgiliau – mae’r ystod eang o unedau opsiynol yn golygu eich bod yn gallu addasu’r cymhwyster hwn i weddu i anghenion datblygiad sefydliadol
  • Mae dysgwyr yn datblygu sgiliau craidd mewn rheolaeth ganol ac yn gallu cael mynediad at ystod eang o feysydd astudio opsiynol er mwyn ennill sgiliau rheoli penodol wedi’u teilwra i’w hanghenion. 

Y canlyniadau i chi

  • Ennill y wybodaeth i gefnogi eich rôl rheolaeth ganol
  • Cael rheolaeth ar eich datblygiad personol
  • Deall newid yn y gweithle
  • Adeiladu perthnasoedd cadarnhaol a chynhyrchiol yn y gwaith
  • Ennill cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol

Yr effaith ar eich cyflogwr

  • Rheolwyr canol brwdfrydig sydd â gallu profedig i berfformio
  • Rheolwyr sy’n gallu asesu a gwella eu datblygiad
  • Gwell cyfathrebu a chydweithio mewn timau
  • Dewis hyblyg o unedau – addasu’r cymhwyster i weddu i’ch sefydliad.

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Rhan amser
Hyd y cwrs:
2 flynedd (un diwrnod y mis yn y coleg gyda chefnogaeth diwtorial unigol)

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Sesiynau addysgu misol gyda thiwtorial unigol/sesiwn un i un ar gyfer pob uned 

Caiff y cwrs ei gyflwyno mewn modd sy’n caniatáu cwblhau un uned fesul pob sesiwn fisol. 

Ceir pum uned orfodol, yn cwmpasu’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnoch i fod yn effeithiol ar y lefel hon:

  • Sylfaen drylwyr yn eich rôl a’ch cyfrifoldebau
  • Sgiliau meddal hanfodol – yn cynnwys cyfathrebu, meithrin perthnasoedd
  • Datblygu eich galluoedd i feddwl yn feirniadol
  • Deall y cysyniadau ariannol sy’n llywio penderfyniadau rheolaeth
  • Nodi a dadansoddi cyfleoedd ar gyfer gwelliant
  • Dod o hyd i ddatrysiadau arloesol a’u rhoi ar waith, arwain drwy newid

Mae’r unedau sy’n weddill yn cwmpasu ystod eang o bynciau craidd ac arbenigol.

Bydd y cymwysterau hyn yn darparu cyfleoedd dilyniant i gymwysterau eraill gan gynnwys: 

  • Diploma Lefel 7 ILM mewn Egwyddorion Arweinyddiaeth a Rheolaeth

Mae’r holl unedau ar sail aseiniad.

Cost y cwrs yw band ffioedd J (£303)

  • Rôl Uwch Reolwr newydd
  • Rôl rheolaeth ganol gyda phrofiad
  • Astudiaethau academaidd blaenorol lefel 3 o leiaf.

Mwy o gyrsiau Busnes, Cyllid a Rheolaeth

Chwiliwch am gyrsiau