Newyddion
Recent press releases
Cafodd myfyrwyr Safon Uwch â diddordeb yn y sector gofal iechyd fewnwelediad i astudio seicoleg gydag ymweliad â Phrifysgol Abertawe, fel rhan o bartneriaeth Rhaglen Maes Meddygol y coleg.

Mae Cymdeithas Ffotograffiaeth Llanelli wedi bod yn gweithio gyda myfyrwyr Coleg Sir Gâr mewn cystadleuaeth ffotograffiaeth a arweiniodd at y gymdeithas yn cyflwyno pum gwobr yn y coleg.

Mae Ysgol Gelf Caerfyrddin yng Ngholeg Sir Gâr yn gwahodd cyn-fyfyrwyr y cwrs sylfaen mewn celf a dylunio a chyn-ddarlithwyr i gymryd rhan yn nathliadau penblwydd y cwrs yn 60 oed.

Roedd Karen Round wedi bod allan o addysg am rai blynyddoedd cyn iddi benderfynu cychwyn ar radd astudiaethau cymdeithasol yng Ngholeg Sir Gâr.

Roedd Caitlin Trussler yn fam ifanc wnaeth adael yr ysgol heb gymwysterau TGAU, ond mae hi wedi dathlu graddio gyda gradd BA anrhydedd mewn Astudiaethau Gofal Cymdeithasol.

Mae myfyrwyr celf a dylunio yng Ngholeg Sir Gâr yn cydweithio gyda phrosiect Trawsnewid Tyisha Cyngor Sir Caerfyrddin i greu celf furol liwgar, sydd wedi’i hysbrydoli gan y gymuned ar gyfer yr ardal.

A Coleg Ceredigion professional cookery student has had his risotto recipe featured on the Riso Gallo website.

Students from Coleg Ceredigion showcased their creative talents as part of the vibrant Gŵyl Cariad Festival, collaborating with local shops to create stunning window displays that celebrate the spirit of the event.

Mae Ben wedi bod yn ddysgwr ymroddgar a gweithgar trwy gydol ei addysg gwaith saer. Gwnaeth dysgu yn y cartref roi profiad dysgu unigryw ac ymarferol iddo, a gwnaeth gwaith coed gyda’i dad feithrin ei gariad dros grefftwaith.

Mae darlithydd yng Ngholeg Sir Gâr wedi cael ail erthygl wedi’i chyhoeddi mewn cylchgrawn gan Blant Yng Nghymru.
Mae’r cylchgrawn wedi cynnwys erthygl y darlithydd Nicky Abraham yn rhifyn y gaeaf Plant yng Nghymru sy’n canolbwyntio ar iechyd meddwl.

Mae myfyrwyr arlwyo a lletygarwch wedi bod yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o gystadlaethau lle maen nhw wedi arddangos sgiliau a diwydrwydd eithriadol, a thystiolaeth o hynny yw’r medalau maen nhw wedi’u hennill.

Mae Oriel Gwyn yn Aberaeron yn cynnal arddangosfa o waith celf gan grŵp o fyfyrwyr Coleg Ceredigion wnaeth raddio’n ddiweddar o gwrs sylfaen mewn celf a dylunio.

Cafodd Alex Huggett, cyn-bennaeth Dysgu Gydol Oes, ei hysbrydoli gan waith Rachel Arnold a’i gwaith ymchwil i Teach the Teacher.
Mae’r cynllun yn golygu bod myfyrwyr a staff yn cyfnewid rolau a thiwtoriaid yn newid lleoedd gyda’u myfyrwyr oherwydd yn aml, gall myfyrwyr sy’n ailsefyll eu TGAU brofi hunanbarch isel pan ddaw hi i ailwneud cwrs sy’n gofyn am gyfranogiad gorfodol yn hytrach nag opsiynol.

Mae myfyriwr arlwyo a lletygarwch yng Ngholeg Sir Gâr wedi cael ei ddewis i gystadlu yng nghystadleuaeth Riso Gallo, sef Pen-cogydd Risotto Ifanc y Flwyddyn y DU ac Iwerddon yng Nghlwb H Tottenham Hotspur ym mis Mehefin.
Fe wnaeth Harry Howells, un ar bymtheg oed o Lanelli, sy’n astudio coginio proffesiynol a gwasanaeth bwyd ar gampws Pibwrlwyd y coleg yng Nghaerfyrddin, ennill aur yn rownd Cymru’r gystadleuaeth ynghyd â’i gyd-fyfyriwr Ryan Abbekerk.

Yng Ngholeg Ceredigion, mae math newydd o gystadleuaeth yn dod â myfyrwyr ynghyd mewn diwydiant sy’n tyfu gyda chyfleoedd ar gyfer gyrfaoedd mewn datblygu gemau a ffrydio a rheoli digwyddiadau.
Mae e-chwaraeon, neu chwarae gemau, yn weithgaredd allgyrsiol poblogaidd iawn i fyfyrwyr, sydd â’u tîm coleg eu hunain ac sy’n cystadlu’n rheolaidd ac yn mwynhau dod at ei gilydd, gan gystadlu mewn nifer o wahanol gynghreiriau.
