Newyddion
Recent press releases
Mae myfyrwyr gwneud dodrefn Coleg Ceredigion yn cymryd rhan mewn briff cystadleuaeth byw i ddylunio tlysau ar gyfer Gŵyl Cerdd Dant 2025.
Gwella lles trwy fyd natur yw un o'r agweddau allweddol gwnaeth tîm o ddarlithwyr yng Ngholeg Sir Gâr fynd i’r afael â hi cyn bod myfyrwyr yn mynd ar daith i Slofenia.

Mae myfyriwr o Goleg Ceredigion wedi cael y cyfle oes o sicrhau profiad gwaith yn Llysgenhadaeth yr Eidal yn Llundain gyda’r pen-cogydd o fri, Danilo Cortellini.

Mae Emma Williams, darlithydd Gwallt a Harddwch yng Ngholeg Sir Gâr, wedi bod yn codi ymwybyddiaeth ac arian ar gyfer Cancer Hair Care UK, elusen sy’n darparu gwasanaethau rhad ac am ddim i unigolion ar draws Cymru a Lloegr sy’n dioddef cemotherapi. Hyd yma, mae Emma wedi codi swm nodedig o £490, gan gyfrannu at y gefnogaeth hollbwysig mae’r elusen yn cynnig i gleifion canser.

Yn ddiweddar, cynhaliodd Coleg Sir Gâr gynhadledd ysbrydoledig i Genhadon Ieuenctid, wedi’i threfnu gan yr Ymddiriedolaeth Chwaraeon Ieuenctid, gan groesawu myfyrwyr o ysgolion lleol i ennill sgiliau gwerthfawr, meithrin rhwydweithiau ac archwilio eu potensial fel ysgogwyr newid yn y dyfodol.

Mae myfyrwraig arlwyo Coleg Ceredigion, Ella Clements, wedi ennill swydd eithriadol fel stiwardes fewnol ar fwrdd gwch hwyliau moethus ym Monaco, Ffrainc. Mae ei rôl yn cynnwys darparu gwasanaeth ciniawa cain i berchennog o fri a'i westeion tra'n cynnal a chadw tu fewn yr gwch hwyliau i safon pum seren.

Mae Coleg Sir Gar a Cheredigion wedi cyhoeddi chwech Llysgennad Addysg Bellach newydd ar gyfer blwyddyn academaidd 2024-25.

Mae myfyrwyr yng Ngholeg Sir Gâr a Choleg Ceredigion wedi dod â medalau adref o rownd derfynol genedlaethol WorldSkills y DU.

Mae myfyriwr cyfryngau creadigol yng Ngholeg Sir Gâr wedi llwyddo i gael lle yn Academi Hiroshima-ICAN ar Arfau Niwclear a Diogelwch Byd-eang 2024.

Mae myfyrwyr o Goleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion yn barod i gystadlu yn rowndiau terfynol cenedlaethol sydd ar ddod WorldSkills y DU a SkillsBuild, a gynhelir yr wythnos hon ym Manceinion a Milton Keynes.

Bu Pete Monaghan, artist lleol o Aberystwyth, yn rhannu ei broses greadigol yn ddiweddar gyda myfyrwyr celf a dylunio, gan danio eu creadigrwydd a’u hannog nhw i archwilio deunyddiau lluniadu a thechnegau gwneud marciau newydd.
Mae dau brentis gwaith saer o gampws Aberteifi Coleg Ceredigion yn rhoi eu sgiliau ar brawf wrth iddynt baratoi i gystadlu yn rownd derfynol SkillBuild UK.

O’r 4ydd-8fed Tachwedd, 2024, mae’r Academi Sgiliau Gwyrdd yng Ngholeg Sir Gâr yn edrych ymlaen yn fawr iawn at ddathlu Wythnos Gyrfaoedd Gwyrdd, menter a gynlluniwyd i gysylltu myfyrwyr, addysgwyr, rhieni a chyflogwyr lleol â maes eang a chynyddol gyrfaoedd gwyrdd.

Mae myfyrwyr Coleg Ceredigion wedi’u henwi fel un o’r tri thîm gorau o enillwyr mewn cystadleuaeth o’r enw Game Jam, a drefnwyd gan WorldSkills UK.

Yn ddiweddar cymerodd grŵp o ddysgwyr ILS (Sgiliau Byw’n Annibynnol) ran mewn twrnamaint pêl-droed a drefnwyd gan Golegau Cymru. Nod y digwyddiad, a oedd yn cefnogi’r ymgyrch ‘Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth’, oedd annog gwaith tîm, hyder a thwf personol.
