Newyddion
Recent press releases
Yn ddiweddar fe wnaeth myfyrwyr Sgiliau Byw’n Annibynnol (ILS) [Llwybr 3] yng Ngholeg Ceredigion fwynhau golwg gyntaf unigryw ar 'Natur', y cynhyrchiad diweddaraf gan Theatr Arad Goch, cyn ei daith.
Mae myfyrwyr yng Ngholeg Sir Gâr sy’n astudio ieithoedd tramor modern (MFL) ar lefel Uwch Gyfrannol a Safon Uwch wedi cael cipolwg ar ddysgu ieithoedd ar lefel prifysgol a rhagflas o Fandarin.
Dychwelodd cyn-fyfyriwr o Goleg Ceredigion i’r coleg i rannu ei brofiad cynhyrchu gyda myfyrwyr cyfryngau creadigol a thechnoleg cyn gorffen ei flwyddyn o brofiad gwaith yn y diwydiant ac anelu am Brifysgol Llundain i arbenigo mewn ffilm.
Fe wnaeth tîm o staff o Goleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion ymweld â Choleg Durham yng Nghanada gyda’r bwriad o ddatblygu rhaglen ffermio trefol ar gampws Gelli Aur ac yn y pen draw ar draws Cymru.
Mae Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion yn cynnig cwrs blwyddyn i fyfyrwyr sydd am gael profiad gwaith a datblygu eu hyder wrth gynyddu eu sgiliau annibyniaeth.
Mae myfyrwyr gofal anifeiliaid yng Ngholeg Ceredigion wedi cael cipolwg ar waith ffisiotherapydd milfeddygol diolch i wasanaeth JT Veterinary Physio and Coaching, a leolir yn Aberystwyth.
Mae myfyrwyr Coleg Ceredigion wedi bod yn gweithio gydag Abaty Ystrad Fflur ger Ystrad Meurig, ar friff byw i greu prototeipiau i gyd-fynd â’u hardaloedd awyr agored a chynnyrch y siop.
Mae myfyrwraig gradd mewn amaethyddiaeth yng Ngholeg Sir Gâr wedi cael ei henwi’n Ddysgwraig y Flwyddyn yng Ngwobrau Lantra Cymru gyda myfyriwr peirianneg yn cael ei gydnabod gyda chymeradwyaeth uchel.
Bydd myfyrwyr celf a dylunio yng Ngholeg Ceredigion yn mynd â’u gwaith i ganol y gymuned fel artistiaid cyfrannog swyddogol yn yr ŵyl gelfyddydau Heddwch a Chariad yn Aberystwyth.
Aeth myfyrwyr o Goleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion â'u lleisiau i Gaerdydd i gymryd rhan mewn panel dysgwyr proffil uchel ar addysg bellach a sgiliau..
Mae Caitlin Meredith, myfyrwraig coginio proffesiynol a lletygarwch yng Ngholeg Ceredigion, wedi ennill teitl clodfawr Pen-cogydd Iau Cymru 2026 yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol (ICC) Cymru yng Nghasnewydd.
Mae myfyriwr gwaith saer ar safle o Goleg Sir Gâr wedi ennill cymeradwyaeth uchel yng ngwobr myfyriwr trydedd flwyddyn y flwyddyn Sefydliad y Seiri Coed (IOC).
Bydd dysgwyr iechyd a gofal cymdeithasol o Goleg Ceredigion yn teithio i’r Iseldiroedd ym mis Chwefror fel rhan o ymweliad astudio rhyngwladol newydd a ariennir drwy raglen gyfnewid Taith Llywodraeth Cymru.
Mae myfyrwyr yng Ngholeg Sir Gâr wedi ymweld ag Auschwitz fel rhan o Brosiect Gwersi o Auschwitz Ymddiriedolaeth Addysgol yr Holocost.
Mae Liz Bowes, sy’n bennaeth darpariaeth amaethyddol Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion yn un o 15 o weithwyr proffesiynol amaethyddol i gael eu dewis i gymryd rhan yn Rhaglen Inspire Cynhadledd Ffermio Rhydychen (OFC).